Homer Sykes & Iain McKell

Talk Photo

13 Mehefin, 2026, 5pm

Date(s)
13/06/2026
Cyswllt
Talk Photo
Registration URL
https://theatrcolwyn.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173673854
Disgrifiad
Homer-Iain cover

Yn y digwyddiad Talk Photo arbennig hwn (ynghyd ag agoriad arddangosfa Homer), daw dau ffotograffydd a ddefnyddiodd ddulliau gwahanol iawn yn eu portreadau o ‘The Blitz Club’ yn y 1980au ynghyd.

Roedd Homer Sykes yn fwy o ffotograffydd dogfennol, roedd Iain McKell ar y llaw arall yn pylu’r llinell rhwng ffotograffiaeth ddogfennol a ffasiwn.   Mae’r digwyddiad hwn yn dangos dwy ffordd wahanol o gynhyrchu gwaith mewn perthynas â’r Blitz Club yn yr 80au.

Hysbyseb TalkPhoto HOMER SYKES + IAIN McKell 

Dyddiad: Dydd Sadwrn 13th Mehefin

Amser: 5pm  (drysau 4.30pm)

Lleoliad: I fyny'r grisiau yn Oriel Colwyn


Cynhyrchodd Homer Sykes rai o'r ffotograffau dogfennol mwyaf eiconig o glwb y Blitz yn Llundain tua 1980. Roedd ei luniau’n cynnwys y “Blitz Kids” ar yr union adeg yr oedd y mudiad Rhamantaidd Newydd yn esblygu o fod yn isddiwylliant bach i un o arddulliau gweledol a cherddorol mwyaf dylanwadol y 1980au.

Yn wahanol i ffotograffwyr ffasiwn caboledig oedd yn gweithio mewn stiwdios neu ar gyfer cylchgronau, yr oedd Sykes mynd ati i dynnu lluniau o’r Blitz fel ffotograffydd dogfennol, a oedd yn rhoi teimlad uniongyrchol, personol ac arsylwadol i'w waith. Mae ei ffotograffau'n llawn lloriau dawnsio gorlawn, colur dramatig, teilwra wedi'i ysbrydoli gan y fyddin, ystumiau theatrig, steilio rhyweddhylifol, ac egni arbrofol diwylliant ysgol gelf Llundain. Yn hytrach na thynnu lluniau o wisgoedd yn unig, dogfennodd Sykes sut yr oedd pobl ifanc yn defnyddio ffasiwn a pherfformiad i ailddyfeisio eu hunain a dianc rhag cyfyngiadau bywyd bob dydd.

Un o agweddau mwyaf trawiadol ffotograffau Sykes o’r Blitz yw pa mor amrwd a naturiol y mae'n dal i edrych. Roedd cynrychioliadau diweddarach o'r mudiad Rhamantaidd Newydd yn aml yn gaboledig, yn fasnachol, ac yr oedd ganddynt gysylltiad cryf â'r diwydiant ffasiwn, ond gwnaeth Sykes dynnu lluniau o’r diwylliant cyn y trawsnewidiad hwnnw. Mae ei ffotograffau'n dal awyrgylch y Blitz pan oedd grŵp cymharol fach o bobl yn dod at ei gilydd yn wythnosol a oedd wedi’i lywio gan greadigrwydd, ffantasi, a hunanfynegiant yn hytrach nag enwogrwydd. Roedd llawer o'r dillad yr oedd unigolion a oedd yn mynd i’r clwb yn eu gwisgo wedi'u gwneud â llaw neu wedi'u haddasu o hen wisgoedd milwrol, gwisgoedd hanesyddol, hudoliaeth Hollywood, ffuglen wyddonol, cabaret, ac androgynedd wedi'i ysbrydoli gan Bowie. Mae'r ffotograffau'n dangos cenhedlaeth yn trin bywyd nos fel modd o gelfyddyd perfformio.

tri chlwbwr wedi'u gwisgo'n lliwgar o oes Rhamantaidd Newydd yr 1980au
'New Romantics' 1980 (c) Homer Sykes

Sykes’ Blitz and Heaven photographs sit naturally alongside his wider body of documentary work, which often explores British subcultures, public rituals, and the ways people communicate identity through clothing and appearance. His work captures not only the fashion of the era, but also the social atmosphere surrounding it: the anticipation outside clubs, the theatricality of entering exclusive spaces, and the sense that nightlife could become a stage for reinvention. 

Mae Homer Sykes yn ffotograffydd cylchgrawn a rhaglenni dogfen proffesiynol. Roedd ei brif gomisiynau ym Mhrydain yn ystod y 1970au – 1980au ar gyfer yr hyn oedd yn arfer cael eu galw yn “atodiadau lliw y penwythnos” fel cylchgronau The Telegraph, The Sunday Times, The Observer, You a’r Sunday Express.

Roedd yn cynnwys newyddion wythnosol ar gyfer Newsweek, Time a’r Cylchgrawn Now gynt! yn cynnwys gwrthdaro yn Israel, Lebanon a Gogledd Iwerddon yn ogystal â newyddion wythnosol yn y DU. Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae wedi tynnu nifer o luniau pobl enwog ac nid mor enwog ar gyfer cylchgronau – gartref, yn y gwaith ac yn hamddena. Mae bob amser wedi gweithio ar brosiectau rhaglenni dogfen ffotograffiaeth personol ochr yn ochr ag aseiniadau cylchgrawn masnachol.

IAIN McKELL – Ffotograffydd Ffasiwn, Dogfennwr Diwylliannol, Gwneuthurwr Ffilmiau, Dylunydd, Arlunydd

Mae Iain McKell yn ffotograffydd Prydeinig, mae ei waith yn cynnwys ffasiwn, isddiwylliant a chelfyddyd gain.  Derbyniodd gydnabyddiaeth am y tro cyntaf yn y 1980au gyda’i bortreadau o bobl ifanc yn ardaloedd tanddaearol Llundain - o’r ‘Skinheads’ a’r Pyncs, i’r “Blitz Kids” a'r Rhamantiaid Newydd. Gan gyfuno dogfennaeth â ffotograffiaeth ffasiwn, mae McKell wedi cyfrannu at i-D, The Face, Vogue Italia, a’r Sunday Times, gan greu prosiectau personol sy’n ymgysylltu â chymdeithas. Mae ei ddefnydd nodweddiadol o olau naturiol yn creu dyfnder emosiynol tragwyddol yn ei bortreadau.

Portread o Vivienne Westwood ifanc
Vivienne Westwood (c) Iain McKell

Yn 27 oed, cynhaliodd ei arddangosfa fawr unigol gyntaf, Iain McKell LIVE, gyda mis o sioe i ddilyn yn The Photographers’ Gallery ym 1985.  Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr gan gynnwys Fashion Forever, The New Gypsies, a Beautiful Britain. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol a’i gasglu gan sefydliadau mawr a chasglwyr preifat,  gan gynnwys arddangosfeydd yn Oriel Turner Contemporary, Margate, Ffair Luniau Arles, ac yn ddiweddar, y Design Museum yn Kensington Blitz - y clwb a siapiodd yr 80au.

Portread o Billy Idol ifanc
Billy Idol (c) Iain McKell

Mae gwaith McKell yn parhau i ddatblygu, gan ddefnyddio delwedd symudol, dulliau gosod ac adrodd straeon arbrofol.  Mae ei waith yn archwilio’r ffiniau rhwng arddull, hunaniaeth a pherthyn - gan ddathlu’r rhai sy’n byw ar yr ymylon ac yn siapio ein diwylliant.

portread o berson ifanc mewn 'siwt zoot' rhy fawr
Zoot Suit (c) Iain McKell

Mae McKell yn gweithio ar ddau brosiect ar hyn o bryd:  My Way, portread personol o wrth-ddiwylliant Brighton, a My God, It’s Full of Stars, traethawd personol yn dogfennu ei siwrnai yn brwydro yn erbyn, ac yn goroesi canser.  Mae’r gwaith hwn yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn trawsnewidiad, diamddiffynedd, a chadernid creadigol, themâu sy’n diffinio ei yrfa dros bedair degawd.

Cyfle prin i glywed Homer yn sgwrsio am ei luniau o glwb y Blitz yn yr arddangosfa newydd a digwyddiad.
Na ddylid ei golli!

 

Talk Photo

Mae  TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol gyda’r nos a gynhelir yn rheolaidd yn Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma  YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Mae tocynnau cynulleidfa ar gael ar sail cyntaf i’r felin.

Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.

Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.

Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn  AM DDIM  er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp