Beth yw PechaKucha?
Mae PechaKucha (sef sgwrsio yn Siapaneg) yn arddull adrodd storïau syml lle mae 20 o luniau yn cael eu dangos am 20 eiliad yr un. Mae’r lluniau yn ymddangos yn awtomatig ar amserydd ac rydych yn siarad wrth iddyn nhw ymddangos. Ni allwch ddewis 'oedi' na 'mynd yn ôl' - mae gennych gyfanswm o 6 munud a 40 eiliad i’w cyflwyno!
Mae PechaKucha yn ffurf well o “Ddangos ac Adrodd”.
Creadigol. Cysylltiol. Didwyll. Cofiadwy. Mae’n llawn Gwybodaeth yn Gyflym, weithiau’n Anhrefnus, ond yn anad dim, yn HWYL!
Dyma ni’n cyflwyno’r fformat am y tro cyntaf yng ngŵyl ‘The Northern Eye’ nôl yn 2019 ac mi roeddech chi wrth eich bodd â’r fformat… gymaint fel ei fod wedi dod yn rhan annatod o fformat ein gŵyl byth ers hynny.
Wrth i ni baratoi ar gyfer ton newydd o ddigwyddiadau Talk Photo bob pythefnos ar ôl gwyliau’r Pasg, roeddem yn credu y byddai’n syniad da cychwyn tymor newydd o sgyrsiau drwy gynnal rhifyn arbennig Talk Photo o PechaKucha.

Rydym wrth ein boddau’n rhannu popeth am ffotograffiaeth gyda chi, ac yn eich gwahodd chi, ein cynulleidfa i gyflwyno ychydig o’ch gwaith neu eich prosiectau yr ydych wedi bod yn gweithio arnynt.
Rydym wrth ein boddau i gynnig cyfle i hyd at 10 o bobl i gyflwyno yn y digwyddiad arbennig PechaKucha hwn gan Talk Photo.
Mae’n ffordd wych o rannu a siarad am eich gwaith.
DYDD MAWRTH 13 MAI (Newid Dyddiad) 7pm
Yr oll sydd eich angen arnoch ydi 20 delwedd ac awydd i siarad am, a chyflwyno eich gwaith. Os yw hynny’n swnio fel chi, ac rydych yn barod am her, cliciwch ar y botwm ymgeisio cyn diwedd y dydd, ddydd Sadwrn, 10 Mai - bydd y 10 cyntaf i ymgeisio’n cael eu dewis a’u cysylltu i gyflwyno yn y digwyddiad.
NODER: bydd angen i chi gyflenwi 20 delwedd wedi’u labelu 1-20 erbyn dydd Llun, 12 Mai, er mwyn caniatáu amser i ni fformatio’r sioe sleidiau PechaKucha
GWNEUD CAIS I GYFLWYNO
Ni chodir tâl am ymgeisio na chyflwyno.
Nid oes angen dweud y bydd angen i’r cyflwynwyr gael cynulleidfa hefyd i gyflwyno eu gwaith iddynt, felly os nad ydych eisiau cyflwyno, archebwch docyn i fod yn y gynulleidfa i gefnogi’r digwyddiad a’r cyflwynwyr.
Mae TALK PHOTO yn ddigwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle mae siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.
Mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) ac mae tocynnau i’w cael ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych yn gallu rhoi cyfraniad tuag at y sgyrsiau, yna dewiswch opsiwn cyfrannu, os gwelwch yn dda – bydd hyn o gymorth uniongyrchol i Oriel Colwyn a pharhad y digwyddiadau hyn yn y dyfodol.
Os yw’n well gennych beidio â rhoi cyfraniad, dewiswch yr opsiwn am docyn AM DDIM.
Gan nad oes llawer o le, byddwn yn cyfyngu nifer y bobl yn y gynulleidfa i 30, ac rydym yn falch o gynnig opsiwn AM DDIM er mwyn cael gwared ag unrhyw rwystrau ariannol rhag bod yn bresennol.