Cyn diwedd 2023, bu Oriel Colwyn a Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye yn gweithio â’r ffotograffydd, Mark McNulty, i greu archif ac arddangosfa newydd. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, codom stiwdio dros dro yng Nghanolfan Siopa BayView a thynnu lluniau’r bobl a gerddodd heibio dros bedwar diwrnod. Mae’r holl ddelweddau a gafwyd yn rhan o’r arddangosfa sydd yng nghyntedd swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar hyn o bryd. (A Bay View)
O weld pobl o bell ac agos yn cael pleser a difyrrwch wrth weld yr arddangosfa, aethom ati i feddwl am ffyrdd o’i hehangu. Yn bennaf, roeddem yn awyddus i gwrdd â mwy o bobl ac ennyn eu cyfranogiad, yn ogystal â chynnig y cyfle iddynt fod yn rhan o’r arddangosfa.
Felly, chwe mis wedi inni dynnu’r lluniau cyntaf fe godom ein stiwdio dros dro unwaith eto, a’r tro hwn fe gawsom fenthyg gasebo i fynd ar y prom ym Mae Colwyn am benwythnos byrlymus ac unigryw.
Ar y dydd Sadwrn fe dynnom luniau o bobl a ddaeth i’r dref ar gyfer Prom a Mwy. Digwyddiad i deuluoedd ydi Prom a Mwy a gynhelir bob blwyddyn ar bromenâd Bae Colwyn. Mae’n denu miloedd o bobl i’r llain 1 cilomedr o hyd i fwynhau gweithgareddau am ddim, adloniant byw, stondinau elusen, atyniadau ffair ac eleni… ni!

Jacob, Alfie & Archie, Prom Xtra, 2024 ©Mark McNulty
Mae Prom a Mwy’n rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd i gael hwyl a chreu atgofion, ac mae’r dorf yn llawn o bobl o ardal Bae Colwyn yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt.
Roedd yn gyfle delfrydol yn ein barn ni i ychwanegu mwy o bobl at archif bortreadau BayView.

Louise, Prom Xtra, May 2024 ©Mark McNulty
Drannoeth (ddydd Sul), fe godom y gasebo a’r stiwdio eto ar gyfer Balchder Bae Colwyn.
Dyma’r ail flwyddyn y cynhaliwyd y digwyddiad Balchder yn y dref, a’r bwriad eleni oedd amlygu “ysbryd bywiog a gwytnwch” y gymuned LHDTC+ ym Mae Colwyn ac adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad y llynedd. Meddai rheolwr Balchder, Kia Davies: “Mae Balchder Bae Colwyn yn fwy na dim ond un diwrnod o ddathlu – mae’n helpu i greu ymdeimlad o berthyn a chael ein derbyn yn y gymuned.”

Gutterslut & Jacques, Colwyn Bay Pride, May 2024 ©Mark McNulty
Roedd hwn yn gyfle delfrydol arall inni weithio â mwy o bobl a’u cynnwys yn y prosiect BayView wrth ddathlu ein tref.

Aison, Colwyn Bay Pride, May 2024 ©Mark McNulty
Fe gwrddon ni â llu o bobl anhygoel yn ystod y penwythnos a thynnu lluniau o 640 ohonoch chi, coeliwch neu beidio! Fe gawsom andros o hwyl ac roeddem yn falch o gwrdd â chynifer o bobl yn y ddau ddigwyddiad – diolch i bawb a gymerodd ran.
Pan ddechreuodd ‘A Bay View’, y bwriad oedd clodfori Daniel Meadows a’i waith hanesyddol o 1973/74, ‘The Free Photographic Omnibus’, ond ers hynny mae wedi datblygu’n gofnod unigryw a rhyfeddol o fywyd ym Mae Colwyn yn 2023/24.
Er mwyn ichi allu gweld y sioe yn ei chyfanrwydd, rydym wedi ehangu’r arddangosfa wreiddiol yng Nghoed Pella i gyd-fynd â’r portreadau newydd.
www.markmcnulty.co.uk
Taith Arddangosfa Rithwir