Out of the woods of thought

Inside the Outside

26 Gorffennaf, 2019 - 14 Medi, 2019

Date(s)
26/07/2019 - 14/09/2019
Cyswllt
Inside the Outside
Disgrifiad
banner

Mae Inside the Outside yn gasgliad o ffotograffwyr cyfoes a sefydlwyd mewn tafarn yn Chelsea yn 2016 gan Al Brydon, Rob Hudson, Stephen Segasby a Joseph Wright.

Mae eu hathroniaeth yn dibynnu ar nifer o gwestiynau cydgysylltiedig ynghylch sut maent yn berthnasol i'r dirwedd a'r ffordd y mae hyn yn llywio eu cynrychiolaeth ar ffurf ffotograffig.

Mae bod yn y dirwedd a chynrychioli’r dirwedd yn golygu byw mewn dau fyd ar yr un pryd, yr un o’n blaenau a’r un y tu mewn i ni. A phan fydd y ddau fyd hynny'n gwrthdaro ac yn gorgyffwrdd, gall y canlyniad synnu'n aml.

Fe gawsant yr ysbrydoliaeth ar gyfer eu henw, Inside the Outside o eiriau John Muir ‘I only went out for a walk and finally concluded to stay out till sundown, for going out, I found, was really going in.’

Maent yn grŵp amrywiol o ffotograffwyr sy'n rhannu ymwybyddiaeth o'r potensial trawsnewidiol hwnnw sy’n elfen hanfodol o'u gwaith. Mae'n gwestiwn y maent yn ei archwilio'n gyffredin mewn cynrychioliadau hynod unigol a phersonol o'r wlad o'u cwmpas.

Nid cynrychioliadau o'r dirwedd yn unig yw eu delweddau. Mae gan bob un o'r arddangoswyr stori i'w hadrodd, ymgysylltiad personol â lle sydd y tu hwnt i'r ddogfen lythrennol. Efallai, fel mae  Minor White yn ei awgrymu, mae’r ffotograffau hyn i gyd yn ‘hunan bortreadau’.

Yn wahanol i normau traddodiadol ffotograffiaeth tirwedd, nid yn unig yr ydym yn cael ein gwahodd i ddychmygu ein hunain yn y lle yr ydym yn ei weld, ond gofynnir i ni hefyd gamu i esgidiau'r ffotograffwyr, neu brif gymeriadau’r straeon sy’n cael eu hadrodd. I ddychmygu'r straeon y mae'r lleoedd hyn yn eu hadrodd wrthym, ac ymgysylltu ar lefel y tu hwnt i edrych yn unig sy’n annigonol.

Nid yw’r rhain o reidrwydd yn lleoedd o harddwch clasurol, ond yn lleoedd sy’n dweud rhywbeth wrthym am beth yw bod yn ddynol. Maen nhw'n adrodd ein stori trwy adrodd straeon y bobl neu'r digwyddiadau a ffurfiodd ac a luniodd y lleoedd yr ydym yn byw ynddyn nhw heddiw.

Mae'r rhain ambell waith yn lleoedd sy’n destun cystadleuaeth. Mae’r dirwedd yn frith o wrthdaro, yn rhyfel llythrennol ambell waith yn achos Mametz Wood gan Rob Hudson. Yn fwy felly mae materion sy'n gwrthdaro o ran perchnogaeth yn erbyn mynediad, camfanteisio masnachol yn erbyn amrywiaeth ecolegol, ac efallai yn fwyaf perthnasol yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae tirweddau yn cael eu herio yn y byd gwleidyddol gan faterion yn ymwneud â ffiniau yn erbyn y rhyddid i deithio neu fudo.

1
Mametz Wood ©Rob Hudson

2
Mametz Wood ©Rob Hudson

Mae’r gallu i ddychmygu (neu ail-ddychmygu) y straeon hyn yn ganolog i waith Inside the Outside Joseph Wright The Floods ,sy’n cymryd tir ymylol anniben hawdd ei anwybyddu, sy’n wrthgyferbyniad i dirwedd fugeiliol ddelfrydol Lloegr, dim ond i ddatgelu’r hud oddi mewn. 

3

The Floods ©Joseph Wright

4The Floods ©Joseph Wright 

Mae Malevolence Stephen Segasby yn dod o hyd i’r bygythiad yng nghoedwig dywyll Fforest y Ddena.

5
©Stephen Segasby 

6
©Stephen Segasby

Ac mae Solargraphs Al Brydon yn datgelu elfen o’r dirwedd yr ydym i gyd yn ei chymryd yn ganiataol – amser ei hun. Mae'r datguddiadau yn y gwaith hwn mor hir nes eu bod yn dod yn adlewyrchiad o'n bywydau a'n cyfnod byr yn y byd hwn.

7
Solargraphs ©Al Brydon

8
Solargraphs ©Al Brydon

“Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu a mynegi bod ymgysylltu â’r dirwedd yn allweddol. Oherwydd os ydym am ddianc o'r goedwig o fygythiadau niferus sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, cwymp bioamrywiaeth a cholli gwybodaeth am y tir a'i werthfawrogi, mae angen i ni atgoffa cymaint o bobl ag sy’n bosibl pam mae’r tir yn werthfawr iddynt. Nid yw creu darlun syml o'r dirwedd fel lle hardd anllygredig, heb unrhyw bobl, straeon na hanes yn adlewyrchiad o’r gwir. Rydyn ni'n darlunio'r tir trwy adrodd y straeon sy'n ein goleuo."

Rob Hudson 

9

www.inside-the-outside.com 

www.robhudsonlandscape.net 

www.josephwright.co.uk

www.stephensegasby.com

www.al-brydon.com

TANYSGRIFIO

Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.

Caniatâd Marchnata

Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:

Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.

Intuit Mailchimp