Browser does not support script.
James
17 Chwefror, 2016 - 26 Chwefror, 2016
Mae James yn ffotograffydd lleol sydd wedi bod wrth ei fodd â bywyd gwyllt ers pan oedd yn ifanc, yn teithio dros Brydain i gyd i weld adar prin ac anghyffredin.
Yn 2014, dechreuodd ymddiddori mewn ffotograffiaeth, gan arbenigo mewn hanes naturiol. Yn 2015, enillodd James ddwy wobr aur wrth ymgeisio gyda’i gasgliadau yn y gwobrau cenedlaethol arobryn, Gwobrau Koestler.
Rydym ni’n falch o allu rhoi llais i James drwy arddangos ei ffotograffiaeth. Mae mwy o wybodaeth am y Koestler Trust a’r gwobrau i’w gweld ar eu gwefan.
Wrth feirniadu’r casgliad, fe wnaeth Gavin Maxwell, y ffotograffydd bywyd gwyllt a’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen enwog, ddisgrifio gwaith James fel:
“cyfres gyson gref o ffotograffau o destunau eithaf heriol. Mae llygad dda am gyfansoddiad, a rhywfaint o hiwmor, yn amlwg yn y testunau.”
Mae ffotograff syfrdanol James o bibydd coesgoch – sydd yn y casgliad hwn – i’w weld yn barhaol yng Ngwarchodfa RSPB Conwy, lle cynhaliodd o arddangosfa y llynedd.
Mae’r arddangosfa hon yn bosib’ trwy gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost i gael y newyddion diweddaraf.
Bydd Oriel Colwyn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch ar y ffurflen hon i gysylltu â chi ac i ddarparu diweddariadau a marchnata. Cadarnhewch yr hoffech glywed gennym trwy e-bost trwy dicio'r blwch isod:
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen dad-danysgrifio yn nhroedyn unrhyw e-bost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn curator@orielcolwyn.org. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y gallwn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.
Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych yn cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Dysgu rhagor am arferion preifatrwydd Mailchimp.