Navigation Menu+

CY – Mark McNulty – A Bay View

Posted on Feb 19, 2024 by in cy

02/04/24 – 07/06/24

Tua diwedd 2023, bu i Oriel Colwyn a Gŵyl Ffotograffiaeth y Northern Eye weithio gyda’r ffotograffydd Mark McNulty i greu archif ac arddangosfa newydd. 

Wedi ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan Daniel Meadows a’i waith hanesyddol ‘The Free Photographic Omnibus’ sy’n dogfennu bywyd yn y DU yn 1973

The Free Photographic Omnibus 1973 ©Daniel Meadows

Ar 22 Medi 1973, aeth Daniel Meadows ar antur a gynlluniwyd ers tro a dros y 14 o fisoedd a ddilynodd, teithiodd dros 10,000 o filltiroedd ar ei ben ei hun ac ymweld â 22 o drefi a dinasoedd. Roedd yn parcio mewn canolfannau siopa ac ar brif strydoedd, ac roedd Daniel yn cynnig sesiynau portread am ddim i bawb, gan ddatblygu eu lluniau dros nos a’u rhoi iddynt y diwrnod canlynol.

Fe dynnodd lun o 958 o bobl.

A Bay View

Gofynnwn ni ffotograffydd Gogledd Cymru Mark McNulty i gweithio hefo ni i greu ei’n arddangosfa newydd – A Bay View. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bu i ni gynnal stiwdio dros dro yng Nghanolfan Siopa Bayview a thynnu lluniau’r bobl a oedd yn cerdded heibio am gyfnod o bedwar diwrnod. 

Peter & Phythian, November 2023 ©Mark McNulty

Roeddem eisiau creu archif o bobl yn ein tref ein hunain, 50 mlynedd yn ddiweddarach yn 2023. 

Bu i ni dynnu llun 307 o bobl. 

Jess, October 2023 ©Mark McNulty

Y ciplun hwn yw ein harchif ein hunain o bobl a bywyd ym Mae Colwyn yn 2023. Rydym yn gobeithio ymhen 50 mlynedd arall y gellir edrych yn ôl arno gyda’r un anwyldeb ag y mae edrych ar ffotograffau Daniel Meadows yn ei gael arnom rŵan, gan gofio wynebau, cyfeillgarwch a ffasiwn… a bod y bobl y gwnaethon ni dynnu eu llun yn gallu cymryd eu lle eu hunain mewn hanes. 

Julie, Nov 2023 ©Mark McNulty
Lenard, Nov 2023 ©Mark McNulty

Galwch heibio i weld y set lawn o luniau, a fydd yn cael eu harddangos yng nghyntedd adeilad y Cyngor Coed Pella ym Mae Colwyn o 19 Mawrth tan 07 Mehefin.  (DIRECTIONS / INFO – ar gau ar penwythnosau)

Gintas, Nov 2023 ©Mark McNulty
Vontay & Hannah, Oct 2023 ©Mark McNulty

Efallai byddwch chi’n gweld rhywun yr ydych yn ei adnabod? 

www.markmcnulty.co.uk