CY – Steve Starr – Coastal Encounters, Reflecting on Appearances & Associations
12/03/24 – 26/04/24
“Rydw i’n chwe deg pum mlwydd oed; rydw i’n teimlo’r gwregys diogelwch yn tynnu ar draws fy mrest wrth i mi yrru’r car Skoda gwyn ar hyd promenâd New Brighton. Mae plentyn yn rhuthro o flaen ei theulu wrth iddynt wneud eu ffordd ar hyd llwybr cerdded y promenâd. Wrth yrru heibio archfarchnad brysur Morrisons a ffair adloniant Adventureland, rwy’n troi i’r chwith ac yn parcio fy nghar mor agos â phosibl at Fort Perch Rock. Wrth ddod o hyd i fy ngofod parcio, gallaf weld goleudy New Brighton yn ymddangos o amgylch ochr yr adeilad. Yn ôl fy arfer, rwyf unwaith eto yn tynnu llun y goleudy cain.”
Mae Steve Starr yn cael ei ddenu tuag at ardaloedd o’r arfordir lleol hwn, yn ogystal â’i aberoedd, afonydd a chamlesi yn arwain allan i’r môr. Gan Adlewyrchu ar Ymddangosiad a Chysylltiadau, mae Steve yn crwydro’n unionsyth o’i gartref yn Heswall, Wirral, gan wneud ei ffordd ar hyd yr arfordir i Landudno.
Yn arsylwi arfordir y rhanbarth yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, daethpwyd ar draws nifer o wrthrychau wedi’u gosod gan ddynoliaeth, a thynnwyd lluniau’r rhain er mwyn eu cofnodi.
Ar yr arfordir, mae’n anodd peidio â chymryd sylw o’r amgylchedd. Mae’r synhwyrau’n llawn, mae’r aer, hyd yn oed ar ddiwrnod llonydd, yn arogli o’r osôn. Sŵn y tonnau’n torri, gwichian y gwylanod yn gwibio, cychod yn taranu, wrth i’w propelorau droi o fewn y dŵr. Mae pobl hefyd yn gwneud sŵn; sgwrsio aneglur yr oedolion yn tanategu iepian o lawenydd y plant yn mwynhau awyrgylch glan y môr. Ond wrth gerdded oddi wrth lan y môr, rydych yn cadw rhywbeth gyda chi, nid yn unig y pen clir gan aer y môr, ond mae’r halen yn aros gyda chi, gallwch ei deimlo ar eich dillad, yn eich gwallt ac ar eich croen, fel cusan hallt i’ch cadw i fynd tan i chi gwrdd unwaith eto.
Mae arsylwadau a wneir o amgylch yr arfordir yn tueddu i ganolbwyntio ar natur; yr haul, môr, awyr, tywod, creigiau a’r holl fywyd sy’n bodoli yn ddwfn yn y môr tymhestlog ac yn uchel yn yr awel. Ond cymerwch olwg arall, ac mae nifer o wrthrychau wedi’u gosod o amgylch yr arfordir gan fodau dynol, yn debyg mewn ymddangosiad, o’r goleudai amlwg, promenadau, llochesi glan y môr a chychod wedi’u gadael, i lawr i’r biniau sbwriel, bolardiau a’r bwiau achub. Wrth fyfyrio o amgylch y gwrthrychau hyn, gall feddyliau a theimladau amrywiol godi. Dyma’n union mae cysylltiadau yn ei wneud i ni, pan fyddwn yn cysylltu ymddangosiad cyfarwydd gydag atgof gwirioneddol neu efallai sefyllfa wedi’i ddychmygu.
Yn yr un modd mae hen ffotograff yn dod ag atgofion plentyndod yn ôl, nid yn unig yr atgofion sy’n uniongyrchol weladwy yn y ffotograff, ond atgofion o bob math o gysylltiadau anuniongyrchol sydd yn y llun, ac efallai atgofion o’r ffotograff fel gwrthrych yn ei rinwedd ei hun.
Gan arsylwi ar loches glan y môr ar yr arfordir, gall hyn ein hatgoffa ni o wyliau teulu un tro, gyda’r cysylltiadau yn ein harwain ni i synfyfyrio ar amseroedd da yn y gorffennol, yn siarad gyda ni yn uniongyrchol o’n profiadau ein hunain. Yna mae hen gwch wedi’i adael, nad ydym erioed wedi’i weld o’r blaen, ond eto mae presenoldeb gwrthrych o’r fath yn ein tynnu ni mewn, i ddychmygu bywyd y gwch a’i berchnogion blaenorol, pob coedyn wedi malu, ffenestr wedi torri a’r paent sy’n pilio yn ein galluogi ni i ychwanegu manylion bywiog i fywyd dychmygol y gwch. Profiad sy’n codi gan ymddangosiad yn unig, a’r cysylltiadau rydym yn eu gwneud, allosodiad a wneir yn ein meddyliau i fywyd blaenorol y gwrthrych, rydym yn ei seilio ar fân arsylwadau ac mae ein dychymyg yn cwblhau’r hyn a ddigwyddodd, yn llenwi’r bylchau.
Mae tynnu lluniau o wrthrychau a welir ar yr arfordir, yn arwain at gysylltiadau pellach. Wrth ei argraffu, a phrofi’r ffotograff yng nghyfforddusrwydd ein hoff gadair freichiau, mae cyfle i edrych ar ymddangosiad y ffotograff.
Mae ffotograff traddodiadol fel arfer yn ddarn o bapur, gyda haen denau o resin yn cynnwys graean arian sensitif golau, ac yn yr haen denau hon rydym yn gweld y ddelwedd wedi’i argraffu. Felly, rŵan yr ymddangosiad yw delwedd ar ddarn o bapur. Yn y gadair freichiau, nid ydym ym mhresenoldeb y gwrthrych yn y ffotograff, ond eto gallwn wneud cysylltiadau gyda’r gwrthrych, a gallwn hefyd wneud cysylltiadau gyda’r ffotograff ei hun fel gwrthrych. Wrth feddwl am y ffotograffau hyn sydd wedi pasio i lawr trwy’r teulu, mae’r ffotograffau â’u hanes eu hunain, ar wahân i’r delweddau sydd ynddynt, neu o bosibl mae cysylltiadau cyfun o’r ffotograff a’r gwrthrych sydd wedi’i gynnwys yn y ffotograff.
Pan mae gwrthrych y ffotograff yn dyddio, yn ildio i’r elfennau neu’n cael ei ddymchwel gan ddatblygwyr, efallai na fydd gwrthrych y ffotograff bellach yn bodoli, ond er hynny, gall ffotograff o’r gwrthrych wrthsefyll yr amser. Gan ein galluogi ni i weld y gwrthrych unwaith eto, asesu ei ymddangosiad a thrwy ein profiadau ein hunain, gwneud cysylltiadau newydd.