Navigation Menu+

CY – Lightbox – Gweithdai Hanner Tymor

Posted on Jan 23, 2024 by in cy

GWEITHDAI HANNER TYMOR CHWEFROR

Mae BLWCH GOLAU yn brosiect gweithdy ffotograffiaeth RHAD AC AM DDIM i bobl ifanc rhwng 10 ac 16 oed.

Mae’n gyfle i weithio ar brosiectau ffotograffiaeth hwyliog a dysgu sgiliau newydd gyda churadur a ffotograffydd Oriel Colwyn, Paul Sampson a’i gynorthwyydd, Emily Hulme

Bydd ein 6 sesiwn nesaf yn cael eu cynnal dros HANNER TYMOR Chwefror yn Theatr Colwyn/Oriel Colwyn, fore a phrynhawn dydd Mawrth 13 Chwefror, dydd Mercher 14 Chwefror a dydd Iau, 15 Chwefror.

Os hoffech chi fanteisio’n llawn ar y sesiynau ffotograffiaeth hwyliog hyn, gallwch archebu lle ym mhob un o’r chwe sesiwn, neu mae croeso i chi ddewis un neu ddwy sesiwn, mae fyny i chi!

Bydd y gweithdai’n cynnwys y broses Syanoteip hanesyddol, paentio gyda golau, sesiynau portreadau stiwdio a nifer o weithgareddau gwych eraill.

Bydd pob gweithdy’n para 2 awr (10.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 3.30pm) ac rydym yn ceisio cyfyngu pob sesiwn i 8 o bobl


DYDD MAWRTH 13 CHWEFROR

  • (10:30am – 12:30pm)
    YSTUMIO*
    Defnyddio adlewyrchiadau, cysgodion, peli crisial, ffilteri a phrismau yn nhref Bae Colwyn i ystumio eich lluniau.

  • (1:30pm – 3:30pm)
    MAE’N FYD BACH

    Creu tirweddau dychmygol gyda bwyd (dewch â’ch tegan/doli/ffigur eich hunan?))

DYDD MERCHER 14 CHWEFROR

  • (10:30am – 12:30pm)
    PORTREADAU STIWDIO
    Dysgu sut i greu portreadau gan ddefnyddio fflach a chefndiroedd stiwdio (cyfle gwych i wisgo fyny o bosibl!)

  • (1:30pm – 3:30pm)
    PAENTIO GYDA GOLAU

    Beth am roi cynnig ar baentio gyda golau (gan gynnwys y Pixelstick enwog!)

DYDD IAU 15 CHWEFROR

  • (10:30am – 12:30pm)
     WYNEBAU*
    Yr hud o ganfod wynebau anarferol ym mhobman o amgylch tref Bae Colwyn.

  • (1:30pm – 3:30pm)
    SYANOTEIP

    Creu celf ffotograffig gan ddefnyddio’r broses hanesyddol a gafodd ei darganfod ym 1842! (sesiwn alw heibio)

ARCHEBU

Gallwch archebu lle yn RHAD AC AM DDIM yn eich gweithdy/gweithdai dewisol isod:

Mae Croeso i rhieni aros am y gweithdy(au) ac NID OES angen iddynt archebu tocyn.

*NODWCH:

  • Nodwch os gwelwch yn dda, mae’r gweithdy syanoteip ddydd Iau’n sesiwn alw heibio felly nid oes rhaid i chi archebu tocyn, dewch draw rhwng 1:30pm a 3:30pm)
  • Byddwn yn mentro allan ar gyfer y gweithdai Ystumio ac Wynebau – gwisgwch yn addas i’r tywydd os gwelwch yn dda.

Rydym yn cynnig y gweithdai hyn yn RHAD AC AM DDIM er mwyn galluogi mynediad i bawb, ond mae ein cyllideb yn fychan iawn, felly croesawir unrhyw roddion i’n helpu i ddatblygu ein gwaith a’n gweithgareddau, p’un a yw hynny ar ffurf offer ffotograffig neu arian.