Navigation Menu+

(CY) Sonder – Llandrillo BA(Hons) Photography Show

Posted on May 15, 2023 by in cy

11 Mai 2023 - 31 Mai 2023

English

BA(Hons) Photography Final Show 2023 - Llandrillo College

 

Bob blwyddyn, mae Oriel Colwyn yn cymryd y cyfle i gefnogi ac arddangos sioe derfynol arddangosfeydd grŵp myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau FdA a BA (Anrhydedd) mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg Llandrillo.

Mae Sioe Derfynol BA (Anrhydedd) eleni yn agor nos Iau 11 Mai (6pm tan 9pm) a bydd yn parhau i gael ei harddangos yn yr oriel tan 31 Mai.

Dyma gyflwyniad i’w gwaith:

 


 

Mae Sonder yn cynnwys gwaith 6 o fyfyrwyr:

 

Anthony Harrison

  • Dadleoliad
     Bu hap-gyfarfyddiad ar draeth Bae Colwyn ar 5 Gorffennaf 2022 yn gatalydd ar gyfer cydweithrediad a ddatblygodd i greu’r corff hwn o waith. Dyma’r foment y gwnes i gyfarfod Kseniia Fedorovykh, ffoadur o Wcrain a oedd wedi cyrraedd Canolfan Groeso ym Mangor ychydig ddyddiau yn unig ynghynt, yn dilyn taith beryglus i ffoi’r rhyfel yn ei mamwlad.  O’r cyswllt cyntaf hwn, fe gadwom ni mewn cysylltiad dros yr ychydig wythnosau dilynol. Roeddwn i wedi fy synnu gan ei brwdfrydedd i olrhain y cysyniad, gan ddarganfod mai dawnswraig a choreograffydd oedd hi a’i bod eisiau achub ar y cyfle hwn i roi llais iddi ei hun i fynegi ei hemosiynau.

    Fel artist, fy nod i yw dal yr effaith emosiynol bwerus y gall dawns ei chael fel cyfrwng mynegiant. Drwy’r darn hwn, fy ngobaith yw tynnu sylw at helyntion ffoaduriaid sydd wedi gorfod ffoi eu cartrefi oherwydd rhyfel a gwrthdaro.

    Mae’r ffotograffau rydw i wedi eu tynnu yn dogfennu’r emosiynau amrwd a phwerus all ddod o ddefnyddio symudiad i fynegi teimladau cymhleth. Merch o Wcrain yw testun y ffotograffau, sy’n defnyddio ei symudiad i fynegi ei thristwch, ei hofn a’i hiraeth am ei theulu sy’n dal i fod yn Wcrain.

    Mae pob lleoliad a ddewisom ni ar gyfer y ffotograffau yn cynrychioli gwahanol agwedd ar y profiad o fod yn ffoadur. Yn un o’r ffotograffau, mae’r testun yn sefyll mewn adeilad diwydiannol gwag, gan amlygu’r ymdeimlad o ynysiad ac unigrwydd sy’n dod o fod yn ddieithryn mewn gwlad estron. Mewn ffotograffau eraill, mae’n sefyll yng nghanol golygfeydd naturiol syfrdanol, sy’n ein hatgoffa o sut mae harddwch yn bodoli yn y byd er gwaethaf y boen a’r dioddefaint a achosir gan ryfel.

    Nid yn unig y mae'r ffotograffau’n gain, mae iddynt hefyd ystyr dyfnach sy’n annog y gwyliwr i fyfyrio ar wirioneddau llym y byd yr ydym yn byw ynddo. Fel artist, fy ngobaith yw bod fy ngwaith yn ysgogi ymdeimlad o empathi ac undod gyda phobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd rhyfel a gwrthdaro.

 

 


Thomas Wyn Jones

 

  • Fel ffotograffydd, mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ddogfennu effeithiau’r dirywiad economaidd ar Ynys Môn, sef ynys fechan oddi ar arfordir Cymru. Drwy fy lens, fy nod yw dal yr heriau cymdeithasol ac economaidd cymhleth sy’n wynebu’r gymuned hon, a bod yn dyst i effaith ddynol y newidiadau hyn.

    Mae fy nelweddau’n dangos y ffatrïoedd anghyfannedd, yr adeiladau adfeiliedig a’r siopau gweigion sy’n symbolau o economi a arferai ffynnu ond sydd wedi dioddef caledi. Ond nid dadfeiliad a cholled yw unig destun fy ngwaith - mae hefyd yn ymwneud â chadernid a phŵer y gymuned i ddod ynghyd yn wyneb adfyd.

    Drwy dynnu sylw at y materion hyn yn fy ffotograffau, rwy’n gobeithio dechrau sgwrs ac ysbrydoli pobl i gymryd camau tuag at ddyfodol mwy cyfiawn a theg i bawb. Credaf y gall celf fod yn adnodd pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, ac rwyf wedi ymroi i ddefnyddio fy sgiliau i adrodd yr hanesion y mae angen eu hadrodd, ac i greu lle i fyfyrio a sgwrsio am faterion sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.

    Drwy fy ngwaith, rwy’n gobeithio herio’r gwylwyr i ystyried eu rhan eu hunain mewn llunio’r byd o’u cwmpas, ac i adnabod cydgysylltiad eu cymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang.”

 

 


 

Sophie Beddow

  • Nhw
    Mae’r byd yn newid drwy’r amser ac mae'n rhaid i ffasiwn addasu a thyfu gyda’r newidiadau hynny. Mae gwleidyddiaeth rhywedd a hunaniaeth wedi dod i’r blaen mewn materion cymdeithasol, yn galw am gydraddoldeb a chyfiawnder i’r rheiny yn y gymuned LHDTC+ sydd wedi cael eu hanwybyddu ers gormod o amser. Mae ffasiwn wedi adlewyrchu hyn drwy nifer o gyhoeddiadau dethol.

    Mae Nhw yn edrych ar yr ideolegau hyn o safbwynt ffasiwn, gan wahanu rhywedd a hunaniaeth drwy ddillad. Mewn dau o’r ffotograffau, mae’r model yn annelwig. Mae hyn yn ein galluogi i beidio â beirniadu rhywedd y model dan sylw. Mae gweddill y delweddau yn cynnig golwg ar wyneb y model. Er y gellir barnu ar rywedd unigolyn - hyn yn oed ar lefel yr isymwybod - mae hi dal yn amhosib dweud sut mae rhywun yn ei ystyried ei hun drwy un ddelwedd.

    Mae’r ffotograffau a arddangosir yn rhan o brosiect sy’n dal i fynd rhagddo. Os hoffech chi gymryd rhan [gan gymryd eich bod yn ymweld ar 11 Mai], cymrwch ddilledyn oddi ar un o’r modelau, gosodwch eich hun o flaen y cefndir a chael tynnu eich llun.

 


 

Connor Williams

  • Mae delwedd o unrhyw dduw ar ein ffurf ein hunain, mewn termau marchnata, yn cael ei alw’n bersonoli - neu i’w roi mewn ffordd arall, rydym yn darlunio ein duwiau yn debyg i ni ein hunain. Mae’r gampfa wedi mynd yn gysegrfa offrymau, gyda’r mantra ni cheir y budd heb y boen yn ein sbarduno tuag at wynfyd o berffeithrwydd corfforol.

    Fel ffotograffydd dogfennol, rwyf wedi dal Cymhleth Duw mewn magwr cyhyrau modern sydd, o’i gymharu â hen dduwiau’r gorffennol, yn debyg mewn sawl ffordd.

 

 


 

Kev Curtis

  • Torri’r bedwaredd wall
    Dathliad o’r byd adloniant amgen ac annibynnol yng ngogledd Cymru.

    Rhwng mis Hydref 2022 a Mawrth 2023, euthum ati i dynnu lluniau amrywiol artistiaid annibynnol er mwyn tynnu sylw at yr amrywiaeth anhygoel o dalent sy’n bodoli y tu hwnt i amlygrwydd lleoliadau masnachol mwy yr ardal.  Mae’r ffenestr chwe mis o weithgarwch yn arddangos artistiaid fel consuriwyr, perfformwyr syrcas, perfformwyr bwrlesg, dawnsio a cabare, dawnswyr fertigol, Clwb Comedi’r Rhyl, amrywiol grwpiau theatr amatur, y diweddar Chris Somerville o’r Harlequin Puppet Theatre a Sam, y dyn â’r mwnci yn Llandudno, ymysg llawer mwy.

    Er gwaethaf eu diffyg adnoddau a chyllid, maen nhw oll yn perfformio gyda’r un faint o frwdfrydedd, ysgogiad ac egni â’u cymheiriaid mwy ariannol lwyddiannus yn y byd adloniant proffesiynol.  Y tu hwnt i ymwybyddiaeth gyhoeddus y brif ffrwd, dyma fy ymgais i roi llais i’r gilfach fechan hon o’r diwydiant, yn ogystal â rhoi cyfran o’r sylw iddyn nhw, sy’n aml mor fyrhoedlog.  I gyd-fynd â’r lluniau wedi’u fframio ar y waliau, mae yna hefyd lyfr ffotograffau mawr i chi bori drwyddo, sy’n cynnwys ffotograffau ychwanegol a datganiadau personol gan nifer o’r perfformwyr.

    Yn wreiddiol o Loegr, rydw i wedi bod yn byw ym Mae Colwyn ers 2011.  Mae’r flwyddyn academaidd hon yn ddiweddglo ar bedair blynedd o astudio yng Ngholeg Llandrillo: tair blynedd i ennill gradd sylfaen gydag anrhydedd mewn ffotograffiaeth, a blwyddyn ychwanegol i’w throsi’n radd anrhydedd.  Ar ôl bod yn gerddor am dros 40 mlynedd (roeddwn i’n arfer cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu ac rydw i bellach yn chwarae’r gitâr fas yn y grŵp Pinc Ffloyd, sef band teyrnged i Pink Floyd), nid yw’n syndod fy mod i wedi cael fy nhynnu tuag at fyd adloniant byw, gyda’r canolbwynt ar ddal drama, awyrgylch a chyffro perfformiad byw

 

 


 

Hari Cenin Roberts

  • Mae fy ngwir ddiddordeb mewn ffotograffiaeth yn troi o amgylch hynodrwydd y trosglwyddiad rhwng y gwirionedd a throsi’r gwirionedd yn ddau ddimensiwn. Anwybyddu natur faterol wirioneddol y gwrthrych a chanolbwyntio yn hytrach ar ei botensial fel cynrychioliad sy’n colli cysylltiad â’i sylwedd, ond ar yr un pryd yn ennill rhywbeth arall wrth gael ei ailddyfeisio. 

    Yr ennill hwnnw sy’n fy nghyfareddu; sut y mae rhywbeth yn dal i gael ei adnabod fel yr hyn ydyw, ond ei fod bellach yn cynnig rhywbeth arall i’w ystyried. I’w roi mewn ffordd arall - tynnu llun rhywbeth mewn ffordd sy’n datgelu mwy na’r hyn oedd o’m blaen yn yr olygfa ei hun.