Navigation Menu+

CY TALK PHOTO

Posted on May 7, 2024 by in cy

Rydym yn falch o lansio TALK PHOTO, digwyddiad cymdeithasol sy’n cael ei gynnal bob pythefnos yng ngofod arddangos Oriel Colwyn, lle bydd siaradwyr gwadd yma YN BERSONOL i rannu cyflwyniadau a chipolwg i’w gwaith neu brosiectau, gyda chynulleidfa gyfeillgar, fach.

Oherwydd cyfyngiad ar le, byddwn yn cyfyngu bob digwyddiad i 25 tocyn yn unig, ond rydym yn hapus i roi tocynnau AM DDIM i osgoi unrhyw rwystrau rhag mynychu.

Os ydych chi mewn safle i allu cyfrannu tuag at y sgyrsiau, yna gellir rhoi rhodd ar y noson, a byddwn yn ddiolchgar iawn.

Serch hynny, rydym yn gofyn os nad oes modd i chi fod yn bresennol, i ddychwelyd y tocyn i eraill sydd ar y rhestr aros.

Er bod y sgyrsiau yn am ddim, bydd angen tocynnau i fynyrchu a byddant yn cael ei dosbarthu ar sel cyntaf drwy’r dolenni. Byddwch yn gyflym!

Mae tocynnau ar gyfer TALK PHOTO ar gael drwy’r dolenni isod:


DYDD SADWRN 28 MEDI

DENNIS MORRIS

Dechreuodd gyrfa Dennis Morris pan oedd yn ifanc. Roedd yn 11 oed pan argraffwyd un o’i ffotograffau ar dudalen flaen y Daily Mirror. Roedd wrth ei fodd â’r camera ers pan oedd yn 8 oed. Roedd yn cael ei adnabod yn ei gymdogaeth yn Nwyrain Llundain fel Mad Dennis gan ei fod yn ffafrio ffotograffiaeth dros bêl-droed. Ar ôl digwydd dod ar draws gwrthdystiad gan y PLO un dydd Sul fe aeth Dennis, oedd yn fachgen ifanc craff, â’i ffilm i asiantaeth ffotograffiaeth ar Stryd y Fflyd a werthodd y ffilm ar unwaith i’r Daily Mirror am £16.   Wedi arfer codi arian i dalu am ffilmiau a rhannau i’r camera drwy dynnu lluniau bedydd a phartïon pen-blwydd, sylweddolodd Dennis yn sydyn iawn fod rhywbeth newydd yma; gallai ddefnyddio ei ddiddordeb a’i angerdd i wneud bywoliaeth. 

Dechreuodd gyrfa ffotograffiaeth cerddoriaeth Dennis go iawn wedi iddo golli ysgol i aros i Bob Marley gyrraedd am sesiwn wirio sain yn y Speak Easy Club ar Margaret Street.  Roedd Marley wedi ei blesio â’r bachgen ifanc yn ei arddegau a oedd yn aros amdano a gwahoddodd Dennis i ddod draw a thynnu lluniau ar weddill y daith. Rhedodd Dennis adref i Dalston, pacio’i fag a neidio ar y bws. Daeth ei ffotograffau o Marley a The Wailers yn enwog ar draws y byd gan ymddangos ar glawr Time Out a Melody Maker cyn bod Dennis wedi troi’n 17 oed hyd yn oed. 

Ffotograffau Dennis o Marley a dynnodd sylw’r Johnny Rotten ifanc. Roedd Rotten, a oedd wrth ei fodd â reggae, wedi bod yn edmygu gwaith Dennis ers amser a gofynnodd iddo gymryd y lluniau swyddogol cyntaf o’r Sex Pistols wrth iddynt arwyddo cytundeb â Virgin Records.  Roedd Dennis, a oedd dal yn ei arddegau, yr un oed â’r Pistols a dysgodd y grŵp yn fuan iawn y gallent ymddiried yn llwyr ynddo, gan ganiatáu mynediad heb gyfyngiadau iddo i’w bodolaeth ryfedd a di-drefn. Am flwyddyn dilynodd Dennis y band gan gymryd cannoedd o luniau gwych o’r band. Dennis oedd yr unig ffotograffydd a wnâi i’r Sex Pistols deimlo’n gwbl gartrefol o flaen y lens a sefydlodd gwaith Dennis gyda’r band nid yn unig eu delwedd gyhoeddus ond hefyd safle Dennis fel un o’r ffotograffwyr cerddoriaeth mwyaf cyffrous a hynod yn y wlad. 

Pan chwalodd y Pistols Dennis aeth gyda John Lydon a Richard Branson ar wyliau i Jamaica. Erbyn hyn yn ffrind agos i Lydon, fe aeth y ddau ati i chwilio am artistiaid reggae ifanc ar gyfer label recordio Branson. Gan ei fod mor hoff o chwilio am dalent ar gyfer labeli recordio fe ymgymrodd Dennis â swydd Cyfarwyddwr Artistig yn Island Records ac arwyddodd The Slits ac L.K.J i’r label. Gan barhau i weithio gyda John Lydon, roedd Dennis yn allweddol yn y broses o greu cloriau arloesol, logo a blwch metel ar gyfer y grŵp P.i.L. Arweiniodd ei angerdd tuag at gerddoriaeth ef i ffurfio ei fand pync du arloesol ei hun, Basement Five. 

Llenwyd y blynyddoedd nesaf gyda cherddoriaeth wrth i Dennis dorri o’r patrwm cerddoriaeth unffurf a dod yn rhan o’r broses o wneud recordiau. Yn 1984 fe ffurfiodd y grŵp bas a drwm Urban Shakedown, a godwyd gan Paul Weller a daethant y grŵp cyntaf i ryddhau ar ei label Respond. Cafodd ei grŵp Boss yn niwedd yr 80au ei arwyddo gan Virgin Records a rhyddhaodd y grŵp 4 sengl. 

Gyda gyrfa yn rhychwantu dros 20 mlynedd a c.v. sydd fel rhestr o bwy ydi pwy mewn cerddoriaeth a diwylliant poblogaidd, mae Dennis Morris yn parhau i dynnu lluniau cerddorion blaenllaw yr oes fel Bush, Oasis a The Prodigy. Mae nifer o lyfrau yn ymwneud â’i waith wedi eu cyhoeddi fel Bob Marley: A Rebel Life; mae wedi cynnal arddangosfeydd yn y DU, Siapan a Chanada, ac mae ei luniau wedi ymddangos yn Rolling Stone, Time, cylchgrawn People a’r Sunday Times, ymhlith eraill.

Mae Dennis Morris nawr yn byw yn Llundain gyda’i wraig a’i blant. Yn ffotograffydd proffesiynol uchel ei barch mae hefyd yn ymwneud â phrosiectau ar gyfer y BBC a Channel 4.

© Dennis Morris
© Dennis Morris
© Dennis Morris


DIGWYDDIADAU GORFFENNOL


DYDD IAU 12 MEDI

ROO LEWIS

Mae ROO LEWIS yn ffotograffydd sy’n byw yng ngogledd Llundain. Mae ei brosiectau wedi amrywio o ddogfennu derwyddon yng Nghernyw, Iesu Hollywood yn LA ac artistiaid teyrnged Elvis yma yng Nghymru. Mae o wedi gweithio gyda chyhoeddiadau fel Vogue, The Guardian a VICE, ac wedi’i gomisiynu gan frandiau fel Toast, Island Records, Belstaff, Sony a Martell.

Mae ei waith wedi ymddangos yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol a’r Academi Frenhinol.

Caiff prosiectau hirdymor Roo eu datblygu drwy feithrin ffydd cymunedau, a chyfleu ei bynciau gydag empathi, emosiwn a gonestrwydd, a gaiff ei bwysleisio ymhellach yn defnyddio dull analog.

Dros gyfnod o ddwy flynedd mae Roo wedi bod yn tynnu lluniau o dref Port Talbot sydd, yn ôl yr actor Michael Sheen, wedi gweld nifer o wrthrychau hedegog anhysbys neu UFOs. Fodd bynnag, nid yw’r llyfr canlyniadol Port Talbot UFO Investigation Club (a gyhoeddwyd gan GOST yn 2023) yn astudiaeth o wrthrychau hedegog anhysbys sydd wedi’u gweld yn yr ardal ond, yn hytrach, mae’n defnyddio’r ffenomena fel pwynt cychwynnol i archwilio pobl, tirwedd a llên gwerin y dref…

© Roo Lewis
© Roo Lewis

DYDD MERCHER 28th AWST

COLIN WILKINSON

After a short career lecturing in further education, Colin Wilkinson left in 1973 to create a pioneering media project in Liverpool. Based on the Canadian Challenge for Change programme, Merseyside Visual Communications Unit gave community groups access to training and resources in film, video and photography. 

In 1977, Open Eye Gallery emerged as the public face of the organisation, exhibiting masters of photography such as Lewis Hine, August Sander, Edward Weston and Imogen Cunningham alongside emerging talents including Tom Wood, Brian Griffiths and Bruce Gilden. 

In 1982, Colin left to create photographic company Light Impressions and started publishing books, postcards and posters. This evolved into Bluecoat Press in 1992, which gained a national reputation for its books specialising in British documentary photography and photojournalism.

Photographers published include John Bulmer, Tish Murtha, Nick Hedges, Chris Steel-Perkins and Jim Mortram. 

In 2022 Colin sold Bluecoat Press to 1854 Media (publishers of the British Journal of Photography) but has since re-entered publishing with his new imprint Image and Reality.


DYDD LAU 15 AWST

JAMES CLIFFORD KENT

Mae James Clifford Kent yn dychwelyd i Oriel Colwyn – cartref ei arddangosfa gyntaf, Memories of a Lost Shark (2013) – i rannu storïau am ei waith yn y DU a Chiwba. 

Ffotograffydd sy’n seiliedig yn Llundain yw James Clifford Kent, ac mae’n ddarlithydd diwylliant gweledol yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Mae ei arfer sy’n ymgysylltu â chymdeithas a’i brosiectau ar y cyd yn cysylltu pobl trwy bŵer adrodd storïau gweledol. 

Mae ei waith sydd wedi ennill gwobrau sy’n archwilio storïau heb eu hadrodd a chymunedau ar yr ymylon wedi’i gyhoeddi’n eang ac wedi’u cynnwys yn y wasg (The Times a The British Journal of Photography) a chyfnodolion o’r radd flaenaf (The Lancet, History of Photography a Royal Photographic Society Journal).

Mae hefyd wedi arddangos gwaith a chefnogi prosiectau curadurol yn Academi Frenhinol y Celfyddydau a The Photographers’ Gallery a hwyluso gweithdai a darparu prif sgyrsiau mewn sefydliadau mawreddog, gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig a Fototeca de Cuba. Cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf – Aesthetics and the Revolutionary City – yn 2019 a dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol iddo yn 2022.

Mae James wedi bod yn teithio’n rheolaidd i Giwba ers 2004, gan weld digwyddiadau hanesyddol fel gorymdaith angladdol cyn Arweinydd Ciwba, Fidel Castro, yn 2016. Mae ei brosiect sydd wedi ennill gwobrau, “¡No hay más na’!” (There’s Nothing Left, 2022–24), yn cofnodi naratif goroesiad yng Nghiwba oedd mewn argyfwng. Mae gwaith diweddar arall sy’n cofnodi profiadau darpar rieni a gweithwyr gofal iechyd o feichiogrwydd/genedigaeth wedi golygu cydweithio â NHS England (2022-24) a chyfrannu at sgwrs ehangach am iechyd a lles cymdeithasol.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei lyfr ffotograffau cyntaf – Yuma – am ei brofiadau o fyw a gweithio ar yr ynys rhwng 2004-2024.

https://www.jckent.com

Cary, Axiuli & Haytoo, ©James Clifford Kent
Gema Montoya – NHS midwife, ©James Clifford Kent


DYDD MERCHER 31 GORFFENNAF

HOMER SYKES

HOMER SYKES

Mae Homer Sykes yn ffotograffydd cylchgrawn a rhaglenni dogfen proffesiynol. Roedd ei brif gomisiynau ym Mhrydain yn ystod y 1970au – 1980au ar gyfer yr hyn oedd yn arfer cael eu galw yn “atodiadau lliw y penwythnos” fel cylchgronau The Telegraph, The Sunday Times, The Observer, You a’r Sunday Express.

Roedd yn cynnwys newyddion wythnosol ar gyfer Newsweek, Time a’r Cylchgrawn Now gynt! yn cynnwys gwrthdaro yn Israel, Lebanon a Gogledd Iwerddon yn ogystal â newyddion wythnosol yn y DU. Dros yr hanner can mlynedd diwethaf mae wedi tynnu nifer o luniau pobl enwog ac nid mor enwog ar gyfer cylchgronau – gartref, yn y gwaith ac yn hamddena. Mae bob amser wedi gweithio ar brosiectau rhaglenni dogfen ffotograffiaeth personol ochr yn ochr ag aseiniadau cylchgrawn masnachol.

Yn y 1970au, dechreuodd Homer ar yr hyn sydd wedi dod yn brosiect gyrfa parhaus yn cofnodi digwyddiadau blynyddol ac arferion llên gwerin Prydeinig. Yn 1977 cafodd ei lyfr cyntaf ei gyhoeddi ‘Once a Year, Some Traditional British Customs’ (Gordon Fraser). Yn 2016 ailgyhoeddodd Dewi Lewis Publishing y rhifyn hwn gyda dros 50 o ddelweddau ‘newydd’ o’i archif.

Mae Homer yn awdur a chyd-awdur-ffotograffydd naw llyfr am Brydain yn ogystal â Shanghai Odyssey (Dewi Lewis Publishing) ac On the Road Again (Mansion Editions). Dechreuodd ar yr un olaf, prosiect Americanaidd yn 1969, tra roedd yn y coleg. Ailadroddwyd y daith ffordd ffotograffig yn 1971, yna cafodd y gwaith ei gadw am dri deg mlynedd ac yn 1999 a 2001 teithiodd unwaith eto ar fws Greyhound yn croesi ar draws America yn cofnodi mympwyon bob dydd canol America.

Yn 2002 sefydlodd fand unigolyn yn hunan-gyhoeddi Mansion Editions. Hyd yma mae Mansion Editions wedi cyhoeddi On the Road Again a Hunting with Hounds. Yn fwy diweddar mae Cafe Royal Books wedi cyhoeddi 30 cylchgrawn o waith Homer.

Fel ffotograffydd sydd wedi ennill gwobrau, mae’n brysurach nag erioed, yn rheoli archif helaeth o dros ugain mil o ddelweddau llawn cynnwys, yn gweithio ar brosiectau personol ac yn tynnu lluniau newydd.

Llawer o gasglwyr preifat a chasgliadau cenedlaethol o’i waith. Treuliodd Homer ddeng mlynedd yn ymweld â Darlithoedd yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain (Prifysgol y Celfyddydau yn Llundain) yn cynnal tiwtorialau grŵp ac un i un gyda myfyrwyr MA a BA yn astudio ffotograffiaeth Ddogfennol a Ffotonewyddiaduraeth.

The Burry Man, South Queensferry, Scotland from the book Once a Year: Some Traditional British Customs ©Homer Sykes
Mari Llwyd, Llangynwyd, Wales from the forthcoming book An Annual Affair: Some Traditional British Calendar Customs.  (to be published Oct 2024) ©Homer Sykes

DYDD MAWRTH 16 GORFFENNAF

JACK LATHAM

Jack Latham

Mae Jack Latham yn ffotograffydd wedi’i leoli yn y DU. Mae o wedi rhyddhau sawl llyfr ffotograffau, A Pink Flamingo (2015), Sugar Paper Theories (2016), Parliament of Owls (2019), Latent Bloom (2020) a Beggar’s Honey (2023).

Mae ei waith wedi ymddangos mewn nifer o sioeau unigol gan gynnwys Amgueddfa Ffotograffiaeth Reykjavik, Oriel TJ Boulting a’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol. Cafodd Parliament of Owls ei arddangos yn Oriel Colwyn yn 2020.

Yn ‘Parliament of Owls’, mae Jack Latham yn archwilio’r effeithiau y gall gwagle gwybodaeth ei achosi.

Wedi’i guddio yng nghoedwigoedd cochwydden Monte Rio, gogledd Califfornia, mae Bohemian Grove, encil 2,700 erw sy’n perthyn i glwb arbennig o fonheddwyr o’r enw San Francisco Bohemian Club, a sefydlwyd yn 1872.

Bob haf, mae elit gwleidyddol a busnes yr UDA yn mynychu’r encil. Dan len o ddirgelwch, mae gweithgareddau’r gelli wedi dod yn destun damcaniaethau cynllwyn a sïon diri.

Mae gwaith diweddaraf Jack ‘Beggars Honey’ yn archwilio byd dirgel ffermydd clicio.
Mae ffermydd clicio yn weithrediadau rhithiol sy’n gyfrifol am chwyddo metrigau ymgysylltu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn artiffisial, gan drin algorithmau gyda chanlyniadau difrifol – o ddylanwadu ar ymddygiad prynwyr i gyfaddawdu uniondeb prosesau democrataidd.

Mae prosiect Jack yn ceisio datgelu gweithrediadau mewnol ffermydd clicio am y tro cyntaf erioed. Drwy wrthgyferbynnu’r hud gyda’r dirgel, mae’n herio ein canfyddiad o’r tirlun digidol, ac yn ein hannog i gwestiynu dilysrwydd y cynnwys rydym yn ei weld bob dydd.

Mae prosiectau Latham hefyd wedi mynd yn eu blaenau i ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobr Bar-Tur Photobook (2015)Gwobr Image Vevey – Heidi.News (2019) a Gwobr Ffotograffiaeth Cenedlaethol BJP (2019).

Phantom Patriot was the name taken by Richard McCaslin of Carson City, Nevada, who, on January 19, 2002, attempted an attack on the Bohemian Grove after viewing Alex Jones’ documentary. He was imprisoned in California for 8 years. He now resides in Nevada and has a super hero base in his backyard which he refers to as the ‘Protectorate Outpost’ – © Jack Latham
Crossroad at night, Oregon, 2012 ©Jack Latham


DYDD GWENER 5 GORFFENNAF

CAROLYN MENDELSOHN

Artist a ffotograffydd portreadau yn Swydd Efrog yw Carolyn Mendelsohn yn bennaf, ond mae hi’n gweithio ar draws y DU ac yn arbenigo mewn adrodd straeon ac amlygu lleisiau tawelach drwy gyd-gynhyrchu portreadau.  Mae hi’n angerddol am fedru cysylltu a chyfathrebu gyda phobl o bob oedran a chefndir er mwyn creu gwaith cryf a phwerus yn seiliedig ar fywydau a straeon. 

Caiff Carolyn ei chydnabod yn rhyngwladol am ei phortreadau, gan gynnwys ei chyfres o bortreadau, arddangosfeydd a’i llyfr Being Inbetween, cyfres o bortreadau a straeon am ferched rhwng 10 a 12 oed (sy’n cynnwys casgliad a gafodd ei arddangos fel rhan o Ŵyl y Northern Eye ym mis Chwefror 2021) a hi yw sylfaenydd Through Our Lens, gweithdy a rhaglen fentora sy’n galluogi pobl i adrodd eu straeon drwy gyfrwng ffotograffiaeth. 

Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn rhyngwladol, drwy arddangosfeydd unigol a grŵp mewn orielau cenedlaethol gan gynnwys Impressions Gallery, Bradford, The Imperial War Museum, Llundain, Galerie Huit Arles, Ffrainc, Neuadd Frenhinol Albert, ac mewn orielau ar draws y DU ac Ewrop.  Mae’r BBC, The Guardian, The Sunday Times, The Telegraph, La Monde, The British Journal of Photography, The Royal Photographic Society Journal a llawer mwy wedi cyhoeddi ei gwaith.  

Mae gwobrau Carolyn yn cynnwys BJP Portrait of Britain 2017, 19, 21, 23 – Open Wall Arles 2020, Kuala Lumpa International Portrait Awards 2021, Gwobr Aur RPS IPE (arddangosfeydd ffotograffiaeth rhyngwladol y Royal Photographic Society) 159 a llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol RPS IPE 160.  Yn 2020, Carolyn oedd enillydd y categori Portrait Series yng ngwobrau Julia Margaret Cameron 15. Enwebwyd Carolyn ar gyfer gwobr 100 heroines y Royal Photographic Society. 

Cyhoeddwyd ei monograff Being Inbetween gan Bluecoat Press ym mis Tachwedd 2020. 

Mae hi’n ffotograffydd llawrydd ac yn artist preswyl ar gyfer Born In Bradford, ac yn gweithio ar brosiectau personol a phortreadau a gomisiynir.   

Portraits from the series Being Inbetween ©Carolyn Mendelsohn
From the series Hardy and Free ©Carolyn Mendelsohn

JANINE WIEDEL

Mae Janine Wiedel yn ffotograffydd dogfennol pwysig yn rhyngwladol, ac mae ei gwaith yn pontio dros bum degawd. Cafodd ei thiwtora gan Ansel Adams a Nancy a Beaumont Newhall, bu iddi dynnu lluniau o fudiad y Black Power yn y 1960au hwyr, a phrotest a reiat 1969 yn People’s Park yn Berkeley. Cyrhaeddodd Lloegr yn 1970, dechreuodd ar gyfres o brosiectau hirdymor parhaus gan gynnwys pum mlynedd yn dogfennu teithwyr Gwyddelig. Mae ei gwaith diweddarach yn cynnwys Gwersyll Merched Comin Greenham, y sgwat cymunedol aml-ddiwylliant yn St Agnes Place, Llundain, a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a Rastaffaraidd yn Brixton. Mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys 6 mis o dynnu lluniau ‘Jyngl’ Calais a gwersyll ffoaduriaid Grande-Synthe yn Dunkirk. Mae gwaith gwych Janine, sydd bob amser â rhyw agwedd wleidyddol yn rhan o draddodiadau gorau ffotograffiaeth ddyneiddiol.

Yn 1977, fe aeth Janine Wiedel yn ei fan wersylla VW i dynnu lluniau o’r diwydiant yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr – a oedd un tro yn ganolog i’r Chwyldro Diwydiannol. Roedd rhanbarth a oedd yn gartref i filoedd o fusnesau – o grochenwyr a gemyddion i byllau glo, gwaith dur a haearn – yn wynebu dirywiad sylweddol; roedd tanfuddsoddi ers sawl degawd yn yr adeiladau a’r peiriannau wedi arwain at sefyllfa ddigalon lle nad oedd busnesau a arferai bod o flaen y gad yn rhyngwladol bellach yn gystadleuol ac yn wynebu dyfodol difrifol.

Sylweddolodd Janine bod hwn yn drobwynt difrifol yn hanes diwydiannol Prydain, a dechreuodd ddogfennu’r gweithwyr o fewn eu  hamgylchedd gwaith.    Rhoddodd y ffatri fynediad nodedig iddi a chafodd groeso gan y gweithlu, a oedd yn gwerthfawrogi ei diddordeb wrth gofnodi eu harferion gweithio dyddiol yn ogystal ag agosatrwydd a rhyngweithio cymdeithasol a oedd yn bwysig iawn mewn amgylcheddau ffatri llym yn aml iawn. Cafodd y gwaith diwydiannol hwn a grëwyd ganddi ei enwi’n Vulcan’s Forge, a fe’i harddangoswyd yn The Photographers Gallery yn 1979, a bellach mae’n ysgrif hyfryd 250+ tudalen o hyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Bluecoat Press.

Along the Roadway to the Face, Littleton Colliery, West Midlands 1978 ©Janine Wiedel
Black Panther Rally to Free Huey Newton at Federal Building in San Francisco California in May 1969 ©Janine Wiedel

MICHELLE SANK

Ganwyd Michelle Sank yn Ne Affrica ac ymgartrefodd yn y DU ym 1987. Fe’i magwyd yn ystod cyfnod Apartheid, ac mae’n ferch i fewnfudwyr o Latfia. Dywed mai’r cefndir hwn roddodd sail i’w diddordeb mewn isddiwylliannau ac archwilio materion a heriau cymdeithasol cyfoes. Mae ei phortreadau crefftus yn asio lleoedd a phobl, gan greu naratifau a thirluniau cymdeithasegol, gweledol a seicolegol.

Mae ei ffotograffau wedi cael eu harddangos a’u cyhoeddi’n eang yn y DU, Ewrop, Awstralia a Mecsico, De Affrica ac UDA. Mae ei delweddau ymysg casgliadau parhaol Alain Servais, Brwsel; Open Eye Gallery Archive, Lerpwl; Societe Jersiaise ac Amgueddfa Guernsey, Ynysoedd y Sianel; Southeast Museum of Photography, Fflorida; The Museum of Fine Arts, Houston, Tecsas; RAMM, Caerwysg; a’r Museum of Youth Culture, y DU.

Mae wedi ennill sawl gwobr glodfawr, gan gynnwys:

Gwobr Portreadau Taylor Wessing, British Journal of Photography, ac yn fwy diweddar, y categori portreadau yng Ngwobrau Ffotograffiaeth Sony World 2024.

Mae wedi cyhoeddi pum llyfr hyd yma. Cyhoeddwyd ei gwaith diweddaraf am gymuned Burnthouse Lane yng Nghaerwysg gan Dewi Lewis y mis hwn.

Zenande, Sinawe, Zinathi, and Buhle 
(winning image in the Sony World Photo Award for Portraiture 2024) ©Michelle Sank
Maurice from My.Self ©Michelle Sank

DANIEL MEADOWS & MARK McNULTY

Mae Daniel Meadows, ffotograffydd ac adroddwr stori digidol yn arloeswr yr ugeinfed ganrif o arfer dogfennaeth Brydeinig.  Mae ei luniau a recordiau sain, a wnaed dros bron i hanner can mlynedd, yn cynnwys bywyd unigryw bob dydd yn Lloegr.  Gan herio’r sefyllfa sydd ohoni mae bob amser wedi cydweithio mewn ffordd sensitif, addfwyn a pharchus. 

Yn hynod annibynnol o’r dechrau, roedd Meadows wedi dyfeisio ei ffordd ei hun o weithio: cynnal stiwdio portreadau am ddim yn Moss Side (1972), yna teithio 10,000 o filltiroedd yn ei fws dau lawr wedi’i drosi, yr Omnibws Ffotograffiaeth Am Ddim (1973-74) i greu portread cenedlaethol, prosiect y dychwelodd ato chwarter canrif yn ddiweddarach.   Fel mabwysiadwr adnoddau digidol cynnar roedd ymhlith y cyntaf i gyfuno sain gyda ffotograffiaeth i wneud straeon digidol.   Mae wedi dychwelyd at y rhai mae wedi tynnu eu lluniau, gwrando ar sut mae pethau a sut mae pethau wedi newid. 

Siaradodd Daniel yn ein Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye oedd yn nodi 50 mlynedd ei brosiect Free Photographic Omnibus.

Gofynnwn ni ffotograffydd Gogledd Cymru Mark McNulty i gweithio hefo ni i greu ei’n arddangosfa newydd – A Bay View. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bu i ni gynnal stiwdio dros dro yng Nghanolfan Siopa Bayview a thynnu lluniau’r bobl a oedd yn cerdded heibio am gyfnod o bedwar diwrnod. 

Mae gyrfa Mark McNulty fel ffotograffydd proffesiynol wedi bod yn eang ac yn amrywiol ers dros dri deg mlynedd.  Yn ystod llawer o’i yrfa gynnar roedd yn arbenigo mewn gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth, teithio gyda bandiau a chynnal gigiau a diwylliant clwb ar draws y DU.

Ers y dyddiau cynnar hynny mae wedi ehangu i gynnwys ystod eang ac amrywiol o bynciau gan gynnwys ffordd o fyw, portreadau a chelfyddydau.

Roedd Marc wedi arddangos 35 Haf yn Oriel Colwyn yn ddiweddar yn dathlu oddeutu tri deg pum mlynedd o ffotograffiaeth cerdd gan Mark a hwn oedd yr ôl-sylliad llawn cyntaf o’i archif ffotograffiaeth cerdd eang.

Roeddem wedi tynnu llun 307 o bobl gyda Mark ar gyfer ein harddangosfa Bay View  

Y ciplun hwn yw ein harchif ein hunain o bobl a bywyd ym Mae Colwyn yn 2023. Rydym yn gobeithio ymhen 50 mlynedd arall y gellir edrych yn ôl arno gyda’r un anwyldeb ag y mae edrych ar ffotograffau Daniel Meadows yn ei gael arnom rŵan, gan gofio wynebau, cyfeillgarwch a ffasiwn… a bod y bobl y gwnaethon ni dynnu eu llun yn gallu cymryd eu lle eu hunain mewn hanes. 

Rydym yn falch y bydd Mark yn ymuno â ni mewn trafodaeth gyda Daniel ar gyfer rhan olaf o sgwrs y noson. 

‘Bootboys’: left-to-right, Brian Morgan, Martin Tebay, Paul McMillan, Phil Tickle, Mike Comish, Barrow-in-Furness, Cumbria. November 1974 – From the Free Photographic Omnibus ©Daniel Meadows
From ‘A Bay View’ 2023 © Mark McNulty

DYDD IAU 9 MAI

PETER DENCH

Mae Peter Dench yn ffotograffydd, cyflwynydd, ysgrifennwr, awdur a churadur a leolir yn y DU.

Mae arddull Dench yn addas ar gyfer aseiniadau golygyddol a masnachol ar gyfer brandiau byd-eang fel Ford, Canon, Coca-Cola, Weetabix, Barcays Wealth a Barclaycard.   

Mae cyflawniadau yn cynnwys Gwobr Llun World Press yn y Categori Straeon Pobl yn y Newyddion ar gyfer croniclo, Drinking of England. Prosiect a noddir gan FIFA, Football Hidden Storyyn cynnwys 26 stori ar draws 20 gwlad wahanol, yn cofnodi effaith gadarnhaol pêl-droed, wedi derbyn chwech acolâd byd-eang.

Mae arddangosfeydd unigol yn cynnwys: Made in England yn yr Haus der Geschichte, Bonn, Yr Almaen; Trans-Siberian World Cup yn yr Oriel After Nyne, Llundain DU. A1: Britain on the Verge a DENCH DOES DALLAS, y ddau yn y Gofod Prosiect Art Bermondsey Llundain, DU. The British Abroad yn yr ŵyl Ffotonewyddiadurwr, Ffrainc. England Uncensored yn yr ŵyl Visa Pour L’image Ffotonewyddiaduriaeth yn Ffranic a’r Ŵyl Periscopio, Sbaen.

Llyfrau yn cynnwys: THE DENCH DOZEN: Great Britons of Photography Vol.1 (2016 Hungry Eye); DENCH DOES DALLAS (2015 Bluecoat Press), The British Abroad (2015 Bluecoat Press) Alcohol & England (2014 Bluecoat Press) and England Uncensored (2012 Emphasis), oedd yn rownd derfynol gwobr llyfr ffotograffiaeth Lluniau’r Flwyddyn Rhyngwladol.

Mae cyfraniadau ysgrifenedig wedi cael eu comisiynu ar gyfer y New Yorker, cylchgrawn y Telegraph a nifer o gylchgronau ffotograffiaeth.

Ymddangosiadau ar y teledu yn cynnwysWhat is it to be English? a Brexit Leavers’ Voices Burnley ar gyfer Channel 4 News UK.

Mae Dench yn Guradur Photo North Festival UK a Llysgennad System OM.

ODESSA, UKRAINE – AUGUST 26: Two paddle in the sea wearing the Ukrainian soldier flag coat of arms trident on a military uniform on August 26, 2023 in Odessa, Ukraine. Several beaches in Ukraine’s Black Sea city port of Odessa were officially reopened for swimming for the first time since the start of the Russian invasion, bathing remained banned during air raid alerts, an Anti-mine net was placed in between two piers to prevent swimmers encountering shallow-water mines many of which were dislodged by flood waters from the destruction of Kakhovka dam under control of the Russian military. The opening of the beaches has been a welcome respite from the tensions of war. (Photo by Peter Dench/Getty Images)
© Peter Dench

DYDD GWENER 26 EBRILL

TESSA BUNNEY

Mae Tessa Bunney wedi bod yn tynnu lluniau o fywyd yng nghefn gwlad ers dros ddeng mlynedd ar hugain, gan weithio’n agos ag unigolion a chymunedau i archwilio sut y mae’r tirlun yn cael ei siapio gan bobl. O ffermwyr mynydd ger ei chartref yng Ngogledd Swydd Efrog i helwyr pâl Gwlad yr Iâ, o fugeiliaid crwydrol Romania i ffermwyr blodau Swydd Lincoln mae ei phrosiectau’n datgelu cymhlethdodau cyfareddol y dibyniaethau rhwng pobl, gwaith a’r tir.

Arddangoswyd ‘FarmerFlorist’ yn Oriel Colwyn yn 2019 a’i gyhoeddi gan Another Place Press fel rhan o’u cyfres Field Notes ac yn gynnar yn 2020 dangoswyd ei gwaith ‘Otherwise Unseen’, sy’n dwyn ynghyd pedair cyfres yn archwilio amrywiol gymunedau gwledig yn Ewrop a De-ddwyrain Asia yn y Side Gallery yn Newcastle-Upon-Tyne.

Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys ‘Made out of Orchards’ a gafodd ei gomisiynu, ei gyhoeddi a’i arddangos gan Sefydliad Martin Parr, a ‘Going to the Sand’, prosiect personol sydd ganddi ar y gweill mewn cydweithrediad â physgotwyr Bae Morecambe a gyhoeddwyd gan Another Place Press yn 2023.

Mae hi wedi derbyn Bwrsariaeth Amgylcheddol TPA/RPS 2023 i weithio gyda physgotwyr arfordir Teesside a Swydd Efrog i ddweud stori’r bygythiad i’w bywoliaeth pan gafodd niferoedd trychinebus o grancod a chimychiaid eu golchi i’r lan.

Mae Tessa’n rhoi sgyrsiau am ei gwaith yn rheolaidd i amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol, orielau, ysgolion a phrifysgolion. Ar hyn o bryd mae hi’n ddarlithydd ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Sant Ioan, Efrog.

John and Michael Wilson cockling, Flookburgh, Cumbria, January 2020 ©Tessa Bunney
Paul Chant, Piltown Farm, West Pennard, Somerset ©Tessa Bunney

To make things fair we will only release details of the speakers and tickets for these on a monthly basis.


DYDD GWENER EBRILL 12

NIALL McDIARMID

Mae’r ffotograffydd o’r Alban, Niall McDiarmid, wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Llundain am fwy na 30 mlynedd. Fodd bynnag, mae’n fwyaf adnabyddus am deithio ledled y wlad yn cynhyrchu portreadau stryd lliwgar o Ogledd yr Alban yr holl ffordd i dde Cernyw.

Mae ei waith wedi ei arddangos mewn amrywiaeth o orielau ac amgueddfeydd ledled y wlad ac yn rhyngwladol gan gynnwys Martin Parr Foundation, Amgueddfa Llundain ac wrth gwrs, Oriel Colwyn a’i brosiectau awyr agored ar draws trefi yng Ngogledd Cymru. Yn y misoedd nesaf bydd arddangosfeydd o’i waith yn Sbaen a Gwlad Belg.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei waith wedi symud i gyfeiriadau gwahanol gan gynnwys cyfres hir o’r enw Nightfall sy’n canolbwyntio ar y newid yn gynnar min nos rhwng y dydd a’r nos. Er y bu i Niall dyfu fyny ar fferm fechan yn Swydd Perth wledig, mae’r gyfres hon o ddelweddau a gymerwyd ar draws y DU yn adlewyrchu ei hoffter dwys o fannau dinesig. Ar yr un pryd mae gan y gwaith synnwyr o brudd-der sy’n aml yn gysylltiedig â chyfnos.

Bydd Niall yn siarad am ei brosiectau parhaus, ei lawenydd wrth greu ffotograffau stryd yn ddyddiol a’r awydd diderfyn i barhau i deithio ar draws y DU.

Walworth, South London – Feb’ 2022 ©Niall McDiarmid
Bermondsey, London – Jan’ 2022 ©Niall McDiarmid

DYDD IAU, MAWRTH 28

MOHAMED HASSAN

Yn wreiddiol o Alexandria yn Yr Aifft, mae Mohamed Hassan, wedi bod yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, yng ngorllewin Cymru yn y DU ers 2007.

Mae byw ac astudio yng Nghymru wedi bod yn ganolog i’w daith fel artist wrth iddo gysylltu mwy gyda phobl, cymunedau a thir Cymru. O ganlyniad i’r profiadau hyn, mae wedi ymroi i barhau â’i daith fel artist Cymreig, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffotograffiaeth o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2016.

Fel artist sydd â chenedligrwydd deuol, mae prosiect Mohamed yn edrych ar ei hunaniaeth fel rhan o gymuned sydd ar wasgar wedi’i lleoli yng Nghymru ac sy’n ehangu’n barhaus.

Mae’r teimlad cyson o fod wedi dadleoli, a chwestiynau am hunaniaeth yn fythol bresennol.

Yn ei ôl o, roedd yn teimlo fel petai mewn breuddwyd pan gyrhaeddodd o yma gyntaf, ac wrth iddo ddarganfod a chrwydro mwy ar Gymru, cafodd ysbrydoliaeth yn y tirweddau garw o’i amgylch. Fel newydd-ddyfodiad i Gymru mae o wedi cael ei gyfareddu gan ei diwylliant ac iaith gyfoethog ac artistig, sydd yn llawn llên gwerin a chaneuon – ac mae ganddo ddiddordeb parhaus yn dogfennu ei brofiad uniongyrchol o’r bobl a’r tir.

Mae Mohamed wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau a chystadlaethau ac mae ei waith wedi cael ei arddangos yn Oriel Mission anrhydeddus, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Arddangosfa Cystadleuaeth Trajectory Showcase yn Shoreditch, Llundain, Nova Cymru 2018, a chafodd portread ei gynnwys yn arddangosfa Photographic Portrait Taylor Wessing2018 yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Fwyaf diweddar, mae Mohamed wedi arddangos 4 llun yn ‘Facing Britain’, a guradwyd gan Ralph Goertz yn Kunsthalle Darmstadt Museum Goch – a deithiodd i Koslar a Krakow yn 2022. Yng Nghymru, roedd arddangosfa ‘Many Voices, One Nation 2’ a gefnogwyd gan y Senedd a gafodd ei arddangos yn Ffotogallery, yn cynnwys 11 o’i luniau ac mae 5 o’i luniau wedi cael eu cynnwys yn arddangosfa Oriel Davies ‘Responding to Rembrandt’.


DYDD IAU, MAWRTH 14

RICHARD BILLINGHAM

Mae Richard Billingham (ganwyd 25 Medi 1970) yn ffotograffydd, artist, cynhyrchydd ffilmiau ac athro celf o Loegr. Mae ei waith yn canolbwyntio’n bennaf ar ei deulu, yr ardal y’i magwyd yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond tirluniau o du hwnt hefyd.

Mae Billingham fwyaf adnabyddus am y Llyfr Lluniau Ray’s A Laugh (1996), sy’n cofnodi bywyd ei dad Ray a oedd yn alcoholig, a’i Fam, Liz, a oedd yn ordew ac wedi’i gorchuddio mewn tatŵs. Addasodd Billingham y llyfr i ffilm, Ray & Liz (2018), cofiant o’i blentyndod.

Enillodd Wobr Ffotograffiaeth Banc Preifat Citibank yn 1997 (sef Gwobr Ffotograffiaeth Deutsche Börse erbyn heddiw) a chafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Turner yn 2001. Mae ei waith yn cael ei gadw yng nghasgliadau parhaol y Tate, Amgueddfa Victoria ac Albert, a Chasgliad Celf y Llywodraeth yn Llundain.

Mae Billingham yn byw yn Abertawe, ym Mhenrhyn Gŵyr yn Ne Cymru ac mae’n adrodd anrhydeddus ym Mhrifysgol Middlesex, a Phrifysgol Swydd Gaerloyw.