Navigation Menu+

(CY) This is Me

Posted on Apr 20, 2023 by in cy

** Offsite show **

- Venue Cymru, Llandudno

(Ebrill 2023 Onwards)

English

 

Mae ‘Dyma Fi’ yn brosiect ar y cyd rhwng Oriel Colwyn a Cartrefi Conwy.

 

Mae partneriaeth greadigol a phellgyrhaeddol y prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2023.

Fel rhan o’r prosiect ‘Dyma Fi’, daeth tenantiaid Cartrefi Conwy yn enwogion am y dydd.

Syniad Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn, oedd y prosiect. Mewn partneriaeth â Nerys Veldhuizen, cyn Gydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn Cartrefi Conwy, eu gweledigaeth oedd rhoi cyfle i’r tenantiaid hŷn serennu ac adrodd eu hanesion. 

Tynnwyd lluniau’r cyfranogwyr yn eu cartrefi eu hunain gan y ffotograffydd portreadau enwog, Niall McDiarmid. Nid ffotograffau yn unig mo’r portreadau hyn, ond rhan o hanes pob tenant. Tynnwyd ffotograffau hefyd o eitemau a oedd yn werthfawr i bob un o’r tenantiaid, a chasglwyd eu hanesion a’u sgyrsiau gan yr awdur a’r storïwr lleol, Gillian Brownson. Mae’r delweddau a’r testun yn gadael i’r tenantiaid adrodd eu straeon a rhannu pwt bach am eu bywydau gyda chi.

 

Anne & Little Anne - ©Niall McDiarmid - "There’s sadness, but there’s wonderful things that happen. We’re such good friends."

 

Mae’r portreadau hyn hefyd yn llunio rhan o lyfr straeon sy’n dod â’r ffotograffau’n fyw.

Meddai Paul Sampson, Curadur Oriel Colwyn: “Roeddem ni eisiau taflu goleuni ar hanesion bywyd aelodau hŷn y gymuned ac arddangos rhai o’u straeon anhygoel. Y nod oedd tynnu sylw at faint y maen nhw wedi’i gyfrannu i’r gymuned rydym ni’n byw ynddi heddiw a faint y maen nhw’n dal i’w gyfrannu i gymdeithas.”

 

Tony ©Niall McDiarmid - "I was very, very happy and made friendships I even have today. There was only a hundred made, they were very special."

 

“Fe wnaethom ni alw’r arddangosfa yn “Dyma Fi” am mai dyma oedd eu cyfle nhw i ddangos pwy ydyn nhw, beth yw eu hanes a beth sy’n bwysig iddyn nhw.”

Cytunodd Nerys ei bod yn hen bryd i aelodau hŷn y boblogaeth gael cyfle i serennu.

Dywedodd: “Yn rhy aml, pan mae pobl yn cyrraedd rhyw oed penodol, maen nhw’n diflannu yn llygaid y bobl ifanc. Mae pobl yn poeni cymaint am eu bywydau a’u gweithgareddau eu hunain nes eu bod yn anghofio bod y genhedlaeth hŷn yn dal i chwarae rôl hanfodol yn ffyniant y gymuned, a bod ganddyn nhw ddiddordebau, hobïau, breuddwydion ac uchelgeisiau o hyd, waeth beth fo’u hoedran.”

 

Marian - ©Niall McDiarmid - “I took a year out. So many adventures! I don’t want to give in, I’ve got to have a life. The secret is, don’t ever totally grow up!”

 

VIEW - FULL IMAGES AND STORIES HERE

 



Ni fyddai DYMA FI wedi bod yn bosib heb gymorth cyllid Cam Diwylliant, ac rydym yn ddiolchgar i Celfyddydau a Busnes Cymru am eu cefnogaeth gadarn i’r prosiect.