Navigation Menu+

(CY) The Photo Film Club #011 – What Remains: The Life and Work of Sally Mann

Posted on Sep 12, 2023 by in cy

DYDD GWENER 29ain MEDI

7pm (drysau’n agor am 6.30pm)

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn

Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!

Mae ein 11fed digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DYDD GWENER 29ain MEDI at 7pm (drysau’n agor am 6.30pm) pryd y byddwn ni’n dangos y ffilm WHAT REMAINS: THE LIFE AND WORKS OF SALLY MANN (cert TBC).

Ac un peth arall, dyw e ddim yn glwb go iawn, fel ein henw ni……….does dim angen ymuno yn ffurfiol ac mae croeso i unrhyw un!


Photo Film Club #011

What Remains: The Life and Work of Sally Mann

– dir Steven Cantor  Cert(TBC)

DYDD GWENER 29ain MEDI 2023 at 7pm (doors 6.30pm)

 


Pris Tocynnau Ymlaen Llaw ar gyfer y dangosiad yw £6 (£8 ar y diwrnod)

Byddwn yn ceisio cadw prisiau tocynnau mor isel â phosibl fel eu bod yn fwy hygyrch. Os gallwch chi helpu ychydig, ystyriwch wneud cyfraniad ychwanegol bach i Oriel Colwyn wrth i chi dalu.


Fel un o ffotograffwyr amlycaf y byd, mae Sally Mann yn creu gwaith celf sy’n herio gwerthoedd ac agweddau moesol gwylwyr. Caiff ei disgrifio gan y cylchgrawn Time fel “ffotograffydd gorau America”. Daeth yn enwog yn rhyngwladol am y tro cyntaf yn 1992 gyda “Immediate Family”, cyfres o luniau cymhleth, llawn dirgelwch o’i phlant ei hun. Cafodd y gwaith hwn, a’r anghydfod yn ei sgil, ei gofnodi yn ffilm fer arobryn Steven Cantor, Blood Ties.



Mae WHAT REMAINS yn troi’n ôl at ddilyn gwaith arloesol newydd Mann: cyfres o ffotograffau sy’n ymwneud ag agweddau amrywiol ar farwolaeth a dadfeilio. Er nad yw Sally Mann yn un i gyfaddawdu, mae’n myfyrio ar ei theimladau personol tuag at farwolaeth wrth iddi barhau i archwilio ffiniau ffotograffiaeth gyfoes. Mae hi i’w gweld ar fferm ei theulu yn Virginia, gyda’i gŵr a’i phlant sydd wedi tyfu bellach o’i chwmpas, ac mae ei pharodrwydd i ddadlennu ei phroses artistig wrth iddi ddatblygu yn caniatáu i’r gwylwyr gael mynediad unigryw i’w byd.



Dros gyfnod o 5 mlynedd, mae WHAT REMAINS wedi rhoi mynediad agored i’r holl gamau sy’n perthyn i waith Mann, ac mae’n cynnig cipolwg prin ar artist huawdl ac arbennig.


Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.