Radiws o 30 Milltir – David Hurn
17/06/23 – 17/09/23
Dechreuodd David Hurn ei yrfa fel ffotograffydd wedi hyfforddi’i hun. Ar y dechrau bu’n gynorthwyydd gydag asiantaeth Reflex, a buan iawn y daeth yn un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf blaenllaw Prydain wrth ddogfennu’r Chwyldro yn Hwngari ym 1956.
Oherwydd ei chwilfrydedd am y byd o’i gwmpas aeth Hurn yn ei flaen i fod yn rhan o’r chwyldro cymdeithasol ym Mhrydain ac America yn y 1960au, gan dynnu lluniau llawer o bobl eiconig ym myd ffilmiau a cherddoriaeth, gan gynnwys y Beatles, Sean Connery a Jane Fonda. Ym 1967 ymunodd ag asiantaeth Magnum Photo fel aelod cyflawn.
Yn ogystal ag ennill bri rhyngwladol am ei waith ffotograffig, mae David Hurn hefyd yn adnabyddus am sefydlu’r Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd, de Cymru. Wedi gadael ym 1989, cefnodd Hurn rhag ffotonewyddiaduraeth ddogfennol yn y pen draw a datblygu dull mwy personol y mae’n ei arfer hyd heddiw o’i gartref yn Nhyndyrn.
Mae David Hurn wedi bod yn tynnu lluniau o Gymru – ei phobl, ei thirlun a’i diwylliant – ers dros hanner canrif ac mae’n dal wrth heddiw fel un o aelodau hwyaf eu tymor yr asiantaeth enwog Magnum Photo.
Mae’r arddangosfa unigryw hon yn cynnwys deg ar hugain o ffotograffau, oll wedi’u creu o fewn cwmpas o ddeg milltir ar hugain o Oriel Colwyn, ac mae’n rhoi cipolwg ar Gymru yn hoff arddull un o’r ffotograffwyr dogfennol uchaf eu parch ym Mhrydain heddiw.
“In the early 1970’s I returned from a hectic life in London to my home base in Cardiff, Wales, ostensibly to rest.
I enjoyed my time so much that I decided to stay, buy a cottage and spend one third of my future life photographing and trying to ‘discover my culture’.”
“As always on a new project, I mapped out a ‘spiders web’ of very simplistic possibilities. Not so much as a bible but more of a safety net to make sure I didn’t stray too far in obscure directions.”
“I had no interest in particular areas as such but was interested in work, sport, education, landscape etc, wherever that led me i.e. life as I saw it.”
“After fifty years of shooting I found that there was no spot in Wales from which I couldn’t make an exhibition within a twenty-five mile radius of that point – except the north coast…
…my excuse is half is water, thus the slight cheat: 30 Mile Radius.”
– David Hurn – May 2023