Navigation Menu+

(CY) The Photo Film Club #008

Posted on Feb 27, 2023 by in cy

DYDD GWENER 10 MAWRTH

7pm (drysau’n agor am 6:30pm)

English

Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn

Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!

Our 8th Photo Film Club event is on DYDD GWENER 10 MAWRTHam 7pm (drysau’n agor am 6:30pm) pryd y byddwn ni’n dangos y ffilm GREGORY CREWDSON:BRIEF ENCOUNTERS (tystysgrif TBC).

Ac un peth arall, dyw e ddim yn glwb go iawn, fel ein henw ni..........does dim angen ymuno yn ffurfiol ac mae croeso i unrhyw un!

 


Photo Film Club #008

 

GREGORY CREWDSON:BRIEF ENCOUNTERS

- dir Ben Shapiro  Cert(TBC)

DYDD GWENER 10 MAWRTH am 7pm (drysau’n agor am 6:30pm)

 

 


 

Advance Tickets for the screening are priced at £6 (£8 on the day)

Byddwn yn ceisio cadw prisiau tocynnau mor isel â phosibl fel eu bod yn fwy hygyrch. Os gallwch chi helpu ychydig, ystyriwch wneud cyfraniad ychwanegol bach i Oriel Colwyn wrth i chi dalu.

 

Tocynnau ar gael 

 

Mae GREGORY CREWDSON: BRIEF ENCOUNTERS yn broffil cyfareddol o Gregory Crewdson, y mae ei ffotograffau diddorol wedi’u trefnu’n gywrain ac yn adrodd hanes cain mewn un llun mawr, wedi’u lleoli mewn trefi bach neu fannau y tu mewn wedi’u hail-greu’n dra manwl, ac wedi’u creu mewn ystafelloedd mawr gwrthsain yr ydych chi’n eu cysylltu â ffilmiau mawr, drud.       

 

 

Mae Gregory Crewdson yn ffotograffydd gwych sydd â llygad gwneuthurwr ffilm, ac mae ef wedi creu rhai o’r lluniau mwyaf atgofus a thrawiadol yn hanes y cyfrwng.  Mae ei luniau mawr a manwl yn adrodd hanesion nodedig bywyd yn nhrefi bach America–golygfeydd wedi’u crisialu mewn un llun.

 

 

Er bod y ffotograffau wedi’u trefnu â chriwiau sydd gydradd â chynyrchiadau ffilm nodwedd, mae Crewdson yn cymryd cymaint o ysbrydoliaeth o’i freuddwydion a’i ffantasïau ef ei hun ag o fydoedd Alfred Hitchcock, David Lynch, Edward Hopper a Diane Arbus. Mae delweddau Crewdson wedi ymdreiddio i ddiwylliant pop hefyd–yn cynnwys ei hysbysebion Six Feet Under unigryw a chelf albwm Yo La Tengo. Mae Gregory Crewdson: Brief Encounters wedi’i ffilmio dros ddegawd ac mae’n rhoi cyfle digyffelyb i weld proses yr artist mewn modd bendigedig–ac mae’r un mor hudol a diddorol â’r lluniau eu hunain.

 

 

 

Tocynnau ar gael 

 

 


Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.