(CY) The Photo Film Club #007
SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK
Dydd Mercher 30 Tachwedd
7pm (drysau yn agor 6.30pm)
Mae’r CLWB FFILM FFOTOGRAFFIAETH yn cynnal ffilm neu raglen ddogfen ffotograffiaeth bob tua 4-6 wythnos yn sinema fendigedig Theatr Colwyn
Gwyliwch ffilm seiliedig ar ffotograffiaeth, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau a chael eich ysbrydoli!
Mae ein 7fed digwyddiad Clwb Ffilm Ffotograffiaeth DDYDD MERCHER 30 TACHWEDD am 7pm (drysau’n agor am 6:30pm) pryd y byddwn ni’n dangos y ffilm SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK (tystysgrif 15).
Ac un peth arall, dyw e ddim yn glwb go iawn, fel ein henw ni..........does dim angen ymuno yn ffurfiol ac mae croeso i unrhyw un!
Photo Film Club #007
SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK
- cyfarwyddwr Barnaby Clay Tyst(15)
DYDD MERCHER 30 Tachwedd 2022 am 7pm (drysau 6.30pm)
Mae tocynnau i weld y ffilm yn £5
Byddwn yn ceisio cadw prisiau tocynnau mor isel â phosibl fel eu bod yn fwy hygyrch. Os gallwch chi helpu ychydig, ystyriwch wneud cyfraniad ychwanegol bach i Oriel Colwyn wrth i chi dalu.
*Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi dangosiad un noson yn unig i gyd-fynd â’n harddangosfa yn ein horiel bresennol, 35 SUMMERS - yr ôl-sylliad llawn cyntaf o archif ffotograffau cerddoriaeth MARK McNULTY, a Gŵyl GIGS Y GAEAF newydd Sir Conwy.
Mae SHOT! THE PSYCHO-SPIRITUAL MANTRA OF ROCK yn daith i straeon lliwgar a bohemaidd hanes roc a rôl. Antur sinematig sy’n treiddio’n ddwfn i feddwl un o ffotograffwyr byw mwyaf y byd roc a rôl: Mick Rock.
Trwy lygad ingol mytholeg roc a rôl; crëwr eiconau, archwiliwr seicedelig, bardd, a cheidwad breuddwydion, mae Mick Rock yn mynd ar drywydd ei stori o ddisgleirdeb glam roc Llundain i ffyrnigrwydd pync Efrog Newydd, ac i ganol y mileniwm newydd.
Mae Mick yn troi i wynebu ei hun a’r profiadau o fod yn geidwad cofnodion gweledol chwedlau a hanesion a ddyrchafodd ef yn eicon yn y stori hon sy’n sôn am ailymddangosiad roc a rôl. Mae lluniau Mick sydd bellach yn enwog o David Bowie, Queen, Syd Barrett (yr aelod a sefydlodd Pink Floyd), Blondie, Lou Reed ac Iggy Pop yn awr wedi sodro ein seice torfol am byth ac am genedlaethau i ddod.
Mae’r ffilm hon sydd wedi’i chyflwyno yn ei eiriau ei hun, ochr yn ochr â lluniau hudolus a hen ffilm archif sydd erioed wedi’i gweld na’i chlywed erioed o’r blaen, recordiadau sain a deunydd gwreiddiol, yn datgelu Rock enigmatig a’i fywyd anturus y tu ôl i’r camera ac fel aelod annatod o ddilynwyr yr artist gan lunio a gweithio gyda rhai o gerddorion a phersonoliaethau mwyaf anhygoel, adnabyddus a dawnus y deugain mlynedd ddiwethaf.
Ac yntau’n grewr eiconau, ac yn eicon yn ei rinwedd ei hun, mae Rock ymysg nifer fach o ffotograffwyr a oedd hefyd yn destun sylw ffotograffwyr wrth iddo gerdded carpedi coch yn Los Angeles, Llundain, Efrog Newydd ac o gwmpas y byd.
GIGS Y GAEAF
Mae gŵyl newydd sbon sy’n dathlu cerddoriaeth fyw, synau a’r gair llafar yn dod i Gonwy! Rhwng 25 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2022 Gigs y Gaeaf yn llenwi llefydd ar draws y sir, yn rhoi’r sbotolau ar dalent gerddorol o Gymru a thu hwnt!
Bydd y digwyddiadau am ddim ac am gost gostyngol.
- I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y llun uchod.
Rydym ni’n cydnabod yn ddiolchgar gefnogaeth Ffilm Cymru Wales ar gyfer ein dangosiadau Clwb Ffilm Ffotograffiaeth rheolaidd.