Navigation Menu+

CY – A Bay View Xtra – Mark McNulty

Posted on Jun 12, 2024 by in cy

15/06/24 – 27/07/24

Cyn diwedd 2023, bu Oriel Colwyn a Gŵyl Ffotograffiaeth Northern Eye yn gweithio â’r ffotograffydd, Mark McNulty, i greu archif ac arddangosfa newydd. Yn ystod hanner tymor mis Hydref, codom stiwdio dros dro yng Nghanolfan Siopa BayView a thynnu lluniau’r bobl a gerddodd heibio dros bedwar diwrnod.  Mae’r holl ddelweddau a gafwyd yn rhan o’r arddangosfa sydd yng nghyntedd swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ar hyn o bryd. (A Bay View)

O weld pobl o bell ac agos yn cael pleser a difyrrwch wrth weld yr arddangosfa, aethom ati i feddwl am ffyrdd o’i hehangu. Yn bennaf, roeddem yn awyddus i gwrdd â mwy o bobl ac ennyn eu cyfranogiad, yn ogystal â chynnig y cyfle iddynt fod yn rhan o’r arddangosfa.

Felly, chwe mis wedi inni dynnu’r lluniau cyntaf fe godom ein stiwdio dros dro unwaith eto, a’r tro hwn fe gawsom fenthyg gasebo i fynd ar y prom ym Mae Colwyn am benwythnos byrlymus ac unigryw.

Ar y dydd Sadwrn fe dynnom luniau o bobl a ddaeth i’r dref ar gyfer Prom a Mwy. Digwyddiad i deuluoedd ydi Prom a Mwy a gynhelir bob blwyddyn ar bromenâd Bae Colwyn. Mae’n denu miloedd o bobl i’r llain 1 cilomedr o hyd i fwynhau gweithgareddau am ddim, adloniant byw, stondinau elusen, atyniadau ffair ac eleni… ni!

Jacob, Alfie & Archie, Prom Xtra, 2024 ©Mark McNulty

Mae Prom a Mwy’n rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd i gael hwyl a chreu atgofion, ac mae’r dorf yn llawn o bobl o ardal Bae Colwyn yn ogystal ag ymwelwyr o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt. 

Roedd yn gyfle delfrydol yn ein barn ni i ychwanegu mwy o bobl at archif bortreadau BayView.

Louise, Prom Xtra, May 2024 ©Mark McNulty

Drannoeth (ddydd Sul), fe godom y gasebo a’r stiwdio eto ar gyfer Balchder Bae Colwyn.

Dyma’r ail flwyddyn y cynhaliwyd y digwyddiad Balchder yn y dref, a’r bwriad eleni oedd amlygu “ysbryd bywiog a gwytnwch” y gymuned LHDTC+ ym Mae Colwyn ac adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad y llynedd. Meddai rheolwr Balchder, Kia Davies: “Mae Balchder Bae Colwyn yn fwy na dim ond un diwrnod o ddathlu – mae’n helpu i greu ymdeimlad o berthyn a chael ein derbyn yn y gymuned.

Gutterslut & Jacques, Colwyn Bay Pride, May 2024 ©Mark McNulty

Roedd hwn yn gyfle delfrydol arall inni weithio â mwy o bobl a’u cynnwys yn y prosiect BayView wrth ddathlu ein tref.

Aison, Colwyn Bay Pride, May 2024 ©Mark McNulty

Fe gwrddon ni â llu o bobl anhygoel yn ystod y penwythnos a thynnu lluniau o 640 ohonoch chi, coeliwch neu beidio! Fe gawsom andros o hwyl ac roeddem yn falch o gwrdd â chynifer o bobl yn y ddau ddigwyddiad – diolch i bawb a gymerodd ran.

Pan ddechreuodd ‘A Bay View’, y bwriad oedd clodfori Daniel Meadows a’i waith hanesyddol o 1973/74, ‘The Free Photographic Omnibus’, ond ers hynny mae wedi datblygu’n gofnod unigryw a rhyfeddol o fywyd ym Mae Colwyn yn 2023/24. 

Er mwyn ichi allu gweld y sioe yn ei chyfanrwydd, rydym wedi ehangu’r arddangosfa wreiddiol yng Nghoed Pella i gyd-fynd â’r portreadau newydd.

The Bay View Xtra Exhibition opens at Oriel Colwyn on Saturday 15th June when we will be open between 2pm and 6pm. As always, everyone is welcome and its FREE to pop in and view.

Come and celebrate our community and the exhibition opening with us! If we photographed you, come and see your photograph in the exhibition! If we didn’t, we’re sorry to have missed you but why not pop in and see how many people you recognise or know…

www.markmcnulty.co.uk